Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad man agored ar gyfer Glannau Porthcawl

Mae’r ymgynghoriad man agored ar gyfer Glannau Porthcawl yn gyfle i fusnesau a phreswylwyr fynegi barn ar gynigion ar gyfer y lleoliad, naill ai ar-lein neu drwy fynd i sesiynau galw heibio, lle bydd byrddau arddangos a staff y gwasanaeth adfywio yno i helpu.

Cynhelir y sesiynau galw heibio ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl:

  • ddydd Mercher 15 Mawrth, 9am - 7pm
  • ddydd Iau, 23 Mawrth, 9am - 5pm

Os  na allwch ddod i’r sesiynau, mae copiau digidol o’r byrddau arddangos ar gael.

Mae’r cyngor wedi ymrwymo i wrando ac ymateb i farn preswylwyr, ac yn awyddus i roi cyfle i bobl leol gyfrannu at wneud penderfyniadau. Rhan allweddol o hyn yw cael adborth ar yr opsiynau posibl a nodwyd yn ystod yr ymgynghoriad man agored. Er mwyn hyrwyddo ymgysylltu, mae bwrdd syniadau ar-lein wedi’i greu a gellir ei gyrchu trwy ddilyn y ddolen isod. Mae hwn yn darparu platfform i bobl rannu eu syniadau a chefnogi syniadau pobl eraill.

Dweud eich dweud

Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.

Ebost i: porthcawlplacemaking@bridgend.gov.uk 
Neu eu hanfon i’r:

BCBC Regeneration
Swyddfeydd Dinesig,
Stryd Angel,
Pen-y-bont ar Ogwr,
CF31 4WB

Dyddiad cau: 6pm ddydd Gwener, 7 Ebrill 2023. 

Chwilio A i Y