Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad Ar Wasanaethau Bws A Gefnogir yn 2018/19

Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.

Gweler adroddiad y Cabinet, gan gynnwys yr adroddiad ymgynghori a sut rydym wedi ymateb.

Datganiad i’r wasg

Cynhelir yr ymgynghoriad hwn yn sgil cynnig i gyfiawnhau gwasanaethau bws a gefnogir yn y fwrdeistref sirol er mwyn ymdopi a lleihad arfaethedig o £188,000 yn y gyllideb yn 2018/19 fel rhan o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhai gwasanaethau bws lleol a rhanbarthol drwy roi cymhorthdal ar gyfer rhai llwybrau bws nad ydyn nhw’n talu eu ffordd yn fasnachol. Mae’r bysiau sy’n teithio ar hyd llwybrau penodol hyn yn caniatáu i drigolion sy’n byw o fewn cyrraedd iddynt deithio i leoliadau gwaith, addysg, gofal iechyd ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol.

O’r herwydd, cyflwynwyd adroddiad Cabinet ar 3 Hydref 2017, a oedd yn nodi’r gwasanaethau bws y mae angen eu had-drefnu. Roedd yr adroddiad yn defnyddio methodoleg a fabwysiadwyd gan awdurdod cyfagos ac yn ystyried y meini prawf canlynol:

  • Nifer y teithwyr fesul taith.
  • Maint y cymhorthdal ar gyfer pob teithiwr.
  • Dim gwasanaethau eraill ar gael.
  • Y tebygolrwydd o dynnu’n ôl gwasanaethau bws masnachol cysylltiedig.
  • Y golled mewn teithiau i weithwyr shifft.
  • Y golled mewn teithiau ar gyfer gofal iechyd ac ymweliadau ysbytai.
  • Y golled mewn teithiau ar gyfer addysg a hyfforddiant.

Mae’r newidiadau arfaethedig i’r gwasanaethau bws i’w gweld yma

Sut i ymateb

Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn dechrau ar 29 Ionawr and cau ar 26 Mawrth 2018. Cewch ymateb neu holi mwy o gwestiynau yn y dulliau canlynol;

Mae fformatau eraill hefyd ar gael ar gais.

Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n panel dinasyddion.

Chwilio A i Y