Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad adolygu teithio dysgwyr

Rydym yn ymgynghori ar newidiadau posib i drefniadau teithio ar gyfer myfyrwyr ysgol a choleg. Fel rhan o hynny, rydym eisiau gwybod sut bydd unrhyw newidiadau arfaethedig i Bolisi Cludiant Cartref i’r Ysgol/Coleg yn effeithio arnoch chi a’ch teulu.

Sail yr ymgynghoriad

Rhaid i ni arbed £35.2 miliwn rhwng 2019 a 2023. Mae’r toriadau hyn yn golygu bod rhaid i ni adolygu ein holl wasanaethau, gan gynnwys a oes modd i ni ddal ati i ddarparu mwy o gludiant i ysgolion na sy’n ofynnol yn gyfreithiol. Ar hyn o bryd, dim ond teithio am ddim i ddysgwyr sydd â hawl i hynny sydd raid i ni ei ddarparu. Mae’r holl gludiant arall yn ddewisol ac mae dogfen yr ymgynghoriad isod yn rhoi mwy o fanylion.

Ymateb i’r ymgynghoriad

Os ydych chi’n ateb drwy’r post, defnyddiwch y cyfeiriad isod.

Cysylltu:

Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: (01656) 643664
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

I fynychu un o’r digwyddiadau ymgynghori isod, archebwch le gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Fel dewis arall, anfonwch e-bost neu ffoniwch ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.

Dyddiadau’r ymgynghoriad

Amserlen o ddigwyddiadau'r ymgynghoriad
Lleoliad Amser Dyddiad
Ysgol Gyfun Pencoed 6:00pm Dydd Llun 11 Tachwedd 2019
Ysgol Maesteg 6:00pm Dydd Mercher 13 Tachwedd 2019
Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath 6:00pm Dydd Llun 18 Tachwedd 2019
Ysgol Gyfun Cynffig 6:00pm Dydd Mercher 19 Tachwedd 2019
Ysgol Brynteg 6:00pm Dydd Mercher 20 Tachwedd 2019
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd 6:00pm Dydd Iau 21 Tachwedd 2019
Ysgol Gyfun Bryntirion 6:00pm Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2019
Ysgol Gyfun Porthcawl 6:00pm Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2019
Coleg Cymunedol y Dderwen 6:00pm Dydd Mercher 4 Rhagfyr 2019
Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Campws Heol y Bontfaen, Pen-y-bont ar Ogwr 6:00pm Dydd Iau 5 Rhagfyr 2019

Dyddiadau pwysig yr ymgynghoriad

Amserlen yr ymgynghoriad
Digwyddiad Dyddiad
Yr ymgynghoriad yn dod i ben 5 Ionawr 2020
Dyddiad gwerthredu arfaethedig ar gyfer y polisi newydd Medi 2021

Chwilio A i Y