Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Strategaeth Creu Lleoedd Porthcawl

Mae Ymgynghoriad Strategaeth Creu Lleoedd Porthcawl yn gyfle i fusnesau a thrigolion roi eu barn ar y cynigion sy'n dod i'r amlwg naill ai ar-lein neu drwy ymweld â sesiynau galw heibio lle bydd byrddau arddangos a staff adfywio ar gael.

Cynhelir y sesiynau galw heibio ym Mhafiliwn y Grand, Porthcawl rhwng 9am-5pm ddydd Mercher 24 Tachwedd a 9am-8pm ddydd Iau 25 Tachwedd. Unwaith y bydd y sesiynau wedi'u cwblhau, bydd y byrddau arddangos yn cael eu harddangos yn gyhoeddus ar hysbysfyrddau yn Cosy Corner tan 17 Rhagfyr 2021 gyda chopïau electronig o'r byrddau ar gael trwy'r dolenni isod.

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i wrando ac ymateb i farn trigolion ac mae am roi cyfleoedd i bobl leol gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau. Rhan allweddol o hyn yw cael adborth ar y themâu a'r cyfleoedd a nodwyd yn yr ymgynghoriad creu lleoedd.

Gellir cyflwyno sylwadau yn ystod y 3 wythnos nesaf drwy e-bost at porthcawlplacemaking@bridgend.gov.uk neu gellir eu hanfon i’r Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB a'u marcio er sylw Adfywio CBS Pen-y-bont ar Ogwr. 

Y dyddiad cau ar gyfer ymateb yw 6pm ddydd Gwener, 17 Rhagfyr 2021. Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu hadrodd i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Chwilio A i Y