Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynnig i ymgynghori ar y Strategaeth Eiddo Gwag 2019 i 2023

Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.

Diben yr ymgynghoriad hwn yw gwahodd safbwyntiau ar y cynnig i weithredu Strategaeth Eiddo Gwag 2019-2023.

Ar gyfartaledd, mae tua 1400 o eiddo preswyl preifat gwag yn y tymor hir (gwag am 6 mis neu gyfnod hirach) yn y fwrdeistref sirol. Ceir ymrwymiad a chyfrifoldeb corfforaethol i wneud defnydd unwaith eto o eiddo gwag.

Mae’r cyngor wedi datblygu Strategaeth Eiddo Gwag sy’n nodi’r amcanion a’r nodau canlynol er mwyn lleihau nifer yr eiddo gwag ledled y Fwrdeistref Sirol:

  • adnabod a blaenoriaethu eiddo gwag
  • darparu help a chymorth i berchnogion
  • sicrhau cyfathrebu effeithiol
  • gweithio’n agos â phartneriaid mewnol ac allanol
  • ystyried y defnydd o weithredu gorfodol

Mae’r strategaeth yn amlinellu dull y cyngor o flaenoriaethu a gwneud defnydd unwaith eto o eiddo gwag, a helpu i gyfrannu tuag at gynyddu argaeledd tai ar gyfer eu gwerthu neu eu rhentu.

Amserlen yr ymgynghoriad
Gweithgaredd Dyddiad
Cyfnod ymgynghori lle rydym yn croesawu eich safbwyntiau ar y cynigion.  1 Chwefror 2019 tan 28 Ebrill 2019
Adroddiad yr ymgynghoriad i’r Cabinet ar ganlyniadau’r ymgynghori. 16 Mehefin 2019
Cyhoeddi adroddiad yr ymgynghoriad ar dudalen yr ymgynghoriad ar ein gwefan ni. 24 Mehefin 2019

Sut i ymateb

Gallwch gyflwyno eich safbwyntiau drwy naill ai gwblhau:

Cyswllt

Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643664
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Mae fformatau eraill ar gael hefyd ar gais.

Cofiwch fod cyfle o hyd i chi leisio eich barn ar wella gwasanaethau’r cyngor drwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.

Chwilio A i Y