Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trawsysgrif fideo Cynllun Meistr Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr

Yr ymgynghoriad ar uwchgynllun canol tref Pen-y-bont ar Ogwr

Mae uwchgynllun canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn nodi gweledigaeth ar gyfer cymuned gyfannedd a ffyniannus sy’n cydblethu menter, cyflogaeth, addysg, yr arfer o fyw mewn tref, diwylliant, twristiaeth a lles. Mae’r cynllun yn nodi cyfres o brosiectau sy’n uchelgeisiol ac y gellir eu cyflawni dros y deng mlynedd nesaf.

Mae pedair thema i’r uwchgynllun:

  • twf
  • cydnerthedd
  • llesiant
  • hunaniaeth

Mae canol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys amrywiaeth o ddefnyddiau, sy’n sail i wyth parth datblygu, y mae 23 o brosiectau wedi cael eu hadnabod ynddynt, a nifer o brosiectau safle-cyfan.

Mae’r parthau datblygu’n cynnwys:

  • Ardal yr orsaf reilffordd
  • Bracla, Nolton a Hen Gastell
  • Y craidd manwerthu
  • Ardal caffis a diwylliannol
  • Y Porth Gogleddol
  • Glan yr Afon
  • Y Castellnewydd
  • Sunnyside

Prosiectau allweddol yn yr uwchgynllun yw:

  • mynedfa newydd i’r orsaf reilffordd o Heol Tremaen a Lôn Llynfi
  • gwelliannau i’r Porth Gogleddol - i greu porth darllenadwy a deniadol i ganol y dref.
  • adleoli Coleg Pen-y-bont i ganol y dref
  • creu hwb diwylliannol fel man cynnal digwyddiadau dan do
  • sgwâr dref newydd
  • mwy o gyfleoedd i fyw yn y dref
  • mynediad gwell at ganol y dref
  • cryfhau’r craidd manwerthu
  • gwelliannau yn ac ar hyd Afon Ogwr

Rhai o’r cwestiynau allweddol y byddwn yn eu gofyn yn ystod yr ymgynghoriad yw:

  • ydych chi’n cytuno â’r cynigion a beth yw’r prosiectau sy’n flaenoriaeth?
  • fyddech chi’n cytuno â’r cynnig i greu mynedfa i’r orsaf reilffordd o Heol Tremaen a Lôn Llynfi?
  • sut ydych chi’n meddwl all yr uwchgynllun newydd helpu i gyflawni ac ategu cymysgedd iach o fanwerthwyr annibynnol a chenedlaethol yn ardaloedd manwerthu craidd y dref?
  • pa weithgareddau diwylliannol a hamdden hoffech chi eu gweld yng nghanol y dref?
  • fyddech chi’n hoffi gweld canol tref Pen-y-bont ar Ogwr fel lle â mwy o gyfleoedd i fyw yn y dref?
  • beth yw eich meddyliau ynglŷn â mynediad ar gyfer cerbydau a cherddwyr yng nghanol y dref?
  • ydych chi’n cefnogi’r cynigion i greu sgwâr newydd ar gyfer y dref a mwy o fannau gwyrdd yng nghanol y dref?

Chwilio A i Y