Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Croesfan Pencoed a Phont Ffordd Penprysg

Sylwch: Mae'r argraffiadau arlunydd hyn at ddibenion arddangos yn unig ac efallai nad ydynt yn gynrychiolaeth bendant.

Diben yr ymgynghoriad hwn yw gwahodd sylwadau ar y cynnydd presennol sy'n gysylltiedig â buddsoddiad trafnidiaeth cyfalaf mawr i wella hygyrchedd aml-foddol ym Mhencoed a thrwyddi.

Ym Mhencoed, mae'r brif reilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe yn rhannu'r gymuned rhwng y dwyrain a'r gorllewin, gyda chroesfan reilffordd yn Ffordd Hendre a phont ffordd dros y rheilffordd yn Penprysg Road, i'r gogledd o'r groesfan reilffordd.

Dros y degawdau mae nifer y cerbydau ar ein ffyrdd wedi cynyddu, ac mae mwy o wasanaethau rheilffordd yn defnyddio'r rhwydwaith – felly mae tagfeydd traffig sylweddol yn effeithio ar y dref pan fydd rhwystrau'r groesfan ar gau er mwyn caniatáu i drenau basio'n ddiogel. 

Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynnal astudiaeth, gan weithio gyda Network Rail a phartneriaid eraill, i geisio dod o hyd i ateb hirdymor i'r broblem hon.

Gelwir hyn yn astudiaeth WelTAG. WelTAG yw Canllawiau Arfarnu Trafnidiaeth Cymru. Mae WelTAG yn fframwaith ar gyfer meddwl am newidiadau arfaethedig i'r system drafnidiaeth.

Ystyriodd astudiaeth WelTAG y canlynol:

  • Tagfeydd
  • Gwahanu
  • Teithio Llesol
  • Cyfyngiad ar ddatblygu economaidd
  • Effeithlonrwydd trafnidiaeth gyhoeddus
  • Cynnydd yn y gwasanaethau rheilffyrdd yn y dyfodol

Rhan bwysig o'r broses, wrth ystyried unrhyw ddatblygiad, yw mesur barn y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill. Diben y ddogfen ymgynghori hon felly yw amlinellu'r datblygiad arfaethedig.

Croesfan Pencoed a Phont Ffordd Penprysg ddogfen ymgynghori  am fwy o wybodaeth.

Digwyddiadau

I'r ymgyngoreion hynny sy'n dymuno manteisio ar y cyfle i ofyn cwestiynau am y cynlluniau, cynhelir digwyddiadau galw heibio yn y lleoliadau canlynol:

Bydd digwyddiadau galw heibio yn cael eu cynnal yn y lleoliadau canlynol:

Lleoliad

Amser

Dyddiad

Bridgend College – Pencoed Campus

2pm to 4pm

Dydd Mawrth 9 Tachwedd 2021

Pencoed Pavilion, Felindre Road

10am to 12pm

Dydd Sadwrn 13 Tachwedd 2021

Pencoed Town Council (Salem Chapel)

6pm to 8pm

Dydd Llun 15 Tachwedd 2021

Pencoed Library

10am to 12pm 

Dydd Gwener 3 Rhagfyr 2021

 

Y broses ymgynghori

Mae'r tabl isod yn nodi'r amserlen ar gyfer yr ymgynghoriad:

Gweithgaredd

Dyddiad

Dyddiad cau ar gyfer ymateb

6pm ddydd Sul 30 Ionawr 2022

Adrodd i'r Cabinet ar ganlyniadau'r ymgynghoriad.

Dydd Mawrth 8 Mawrth 2022

 

Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad yn cael eu hadrodd i Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Os bydd penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen, dyna fydd diwedd y cynnig hwn ac efallai bydd cynnig arall yn cael ei geisio.

Sut i ymateb

Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.

Gall yr awdurdod lleol ddarparu copïau papur o'r arolwg ac mewn fformatau eraill, ar gais.

Cysylltwch

Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu
Ffôn: (01656) 643 643
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr,, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Chwilio A i Y