Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

CPO Porthcawl

Ar 20 Gorffennaf 2021 rhoddodd Cabinet y Cyngor gymeradwyaeth ffurfiol i wneud, hysbysebu, hysbysu a datblygu cadarnhad o Orchymyn Prynu Gorfodol i gaffael tir i gefnogi Cynllun Adfywio Glannau Porthcawl. 

Ar ôl derbyn cymeradwyaeth y Cabinet hwn, cafodd Gorchymyn Prynu Gorfodol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Adfywio Glannau Porthcawl) 2021 ("y GPG") ei wneud yn ffurfiol gan y Cyngor ar 8f Hydref 2021 a chaiff ei anfon at Weinidogion Cymru cyn bo hir i'w gadarnhau.

Mae'r cyfnod gwrthwynebu statudol sy'n ymwneud â'r GPG bellach wedi dechrau. Fel rhan o'r broses hon, mae'r GPG wedi'i hysbysebu mewn papur newydd lleol, anfonwyd llythyrau hysbysu at dirfeddianwyr a phartïon sydd â diddordeb yn y tir, ac mae hysbysiadau safle wedi'u codi ar draws y safle.

Er mwyn sicrhau bod aelodau o'r cyhoedd yn gallu gweld dogfennau'r GPG, mae copïau o Adroddiad a Chofnodion y Cabinet ym mis Gorffennaf, y GPG, y Datganiad o Resymau a'r Hysbysiad i'r Wasg statudol ar gael ar-lein drwy'r dolenni canlynol.

Mae copïau ffisegol o'r gyfres lawn o ddogfennau GPG, gan gynnwys y dogfennau hynny a restrir yn y Datganiad o Resymau, hefyd ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio yn Llyfrgell Porthcawl fel y nodir isod:

Cyfeiriad:  Llyfrgell Porthcawl, Church Place, Porthcawl, CF36 3AG

Oriau Agor:                     

Dydd Llun: 9:15am - 6:00pm
Dydd Mawrth: 9:15am - 5:00pm
Dydd Mercher: 9:15am - 1:00pm
Dydd Iau: 9:15am - 5:00pm
Dydd Gwener: 9:15am - 5:00pm
Dydd Sadwrn: 9:15am - 5:00pm
Dydd Sul:  Ar gau

Nodwch fod y Llyfrgell ar gau amser cinio rhwng 1:00pm a 2:00pm ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Rhaid cyflwyno unrhyw wrthwynebiad i’r GPG yn ysgrifenedig i Arolygiaeth Gynllunio Cymru, Gwaith Achos Arbenigol, Adeilad y Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ neu drwy e-bost i PEDW.Casework@gov.wales, erbyn 26 Tachwedd 2021 neu cyn hynny gan nodi teitl y gorchymyn, sail y gwrthwynebiad a chyfeiriad y gwrthwynebydd a’i fuddiant yn y tir.

Wrth gyflwyno gwrthwynebiad, dylid nodi y bydd eich data personol a'ch gohebiaeth yn cael eu trosglwyddo gan Arolygiaeth Gynllunio Cymru i'r awdurdod caffael er mwyn galluogi i'ch gwrthwynebiad gael ei ystyried.   Pan ddaw'r gorchymyn yn destun gweithdrefnau Ymchwiliad Cyhoeddus, copiir yr holl ohebiaeth i'r Arolygydd sy'n cynnal yr Ymchwiliad a chaiff ei gadw yn llyfrgell yr Ymchwiliad Cyhoeddus, lle mae ar gael i'r cyhoedd.   Os nad ydych yn dymuno i'ch data personol gael ei anfon ymlaen, nodwch eich rhesymau wrth gyflwyno'ch gwrthwynebiad a bydd Arolygiaeth Gynllunio Cymru yn copïo'ch sylwadau i'r awdurdod caffael gyda'ch enw a'ch cyfeiriad wedi’u tynnu.

Dogfennau

Chwilio A i Y