Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Adolygiad o ardaloedd, mannau a gorsafoedd pleidleisio

Mae’r adolygiad hwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan bob etholwr gyfleusterau pleidleisio rhesymol a digonol, sydd hefyd yn darparu ar gyfer pleidleiswyr anabl. O ganlyniad, bydd yn ystyried pob lleoliad pleidleisio ar sail:

  • mynediad cyffredinol
  • hygyrchedd i bleidleiswyr anabl
  • addasrwydd i gynnal proses bleidleisio yn effeithiol
  • maint yr etholaeth
  • ei bellter o holl fannau pleidleisio’r ardal
  • mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus at ddewisiadau gwahanol
  • pa mor effeithiol yw cost y trefniadau

Bydd unrhyw ardaloedd pleidleisio a mannau pleidleisio newydd yn dod i rym ar gyfer yr etholiad nesaf sydd wedi'i drefnu yn 2020.

Rhaid cyflwyno sylwadau yn ysgrifenedig i’r Swyddfa Gwasanaethau Etholiadol erbyn 4pm ar 8 Tachwedd 2019.

Yna bydd yr ymgynghoriad yn cymryd saib. Pan fydd yn ailagor ar 15 Tachwedd, bydd yn bosibl ymateb i’r sylwadau fydd wedi’u gwneud.

Ymateb i’r ymgynghoriad

Fel arall, llenwch yr holiadur isod a’i anfon i’r cyfeiriad a nodir ar y ffurflen.

Ymateb i’r sylwadau sydd eisoes wedi’u gwneud

Dylech adolygu’r sylwadau cychwynnol hyn ar yr ymgynghoriad, ac ymateb iddynt uchod.

Mae’n rhaid i sylwadau ychwanegol ddod i law erbyn 4pm ar 22 Tachwedd 2019 i hysbysu’r argymhellion terfynol.

Gellir cysylltu â’r Comisiwn Etholiadol yn ysgrifenedig i gyflwyno unrhyw sylwadau yn herio canlyniadau’r adolygiad hwn. Dylech chi nodi’n eglur y modd yr honnir fod y Cyngor wedi methu â chynnal yr adolygiad yn briodol:

Cyswllt:

Y Cwnsler Cyfreithiol

Y Comisiwn Etholiadol
Ffôn: 020 7271 0500
Cyfeiriad: 3 Bunhill Row, Llundain, EC1Y 8YZ.

Ffacs: 020 7271 0505

Dyddiadau ymgynghori pwysig

Amserlen ymghynghori
Dyddiad Cam Gweithredu
4pm, 8 Tachwedd Mae'r ymgynghoriad yn cymryd saib er mwyn adolygu'r sylwadau.
15 Tachwedd Mae'r ymgynghoriad yn ailagor gyda sylwadau o'r cylch cyntaf, y gellir ymateb iddynt.
22 Tachwedd Mae'r ymgynghoriad yn cau am y tro olaf.

Chwilio A i Y