Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

2018, Ysgol Gynradd Pencoed, anghenion dysgu ychwanegol

Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau

Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.

Cynnig i sefydlu darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn Ysgol Gynradd Pencoe.

Dogfennau cysylltiedig

Darlun cyffredinol

Diben yr ymgynghoriad yw gofyn am eich barn ar y cynnig i sefydlu canolfan adnoddau dysgu (LRC) ar gyfer hyd at wyth disgybl ag anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd (ASD) yn Ysgol Gynradd Pencoed.

Sut i ymateb

Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn dechrau ar 9 Chwefror 2018 ac yn dod i ben ar 23 Mawrth 2018.

Gallwch ymateb neu ofyn rhagor o gwestiynau yn y ffyrdd canlynol:

Cyswllt:

Y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 815253
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Mae fformatau amgen hefyd ar gael drwy wneud cais amdanynt.

Cynhelir cyfarfodydd ymgynghori a sesiynau galw heibio y mae modd i chi gadw lle ar eu cyfer, fel y manylir dros y ddalen ar gyfer y gwahanol bartïon sydd â diddordeb.

Amserlen cyfarfodydd ymgynghori yn Ysgol Gynradd Pencoed.

Lleoliad: Ysgol Gynradd Pencoed

Dyddiad

Amser

Cyngor yr Ysgol – Ysgol Gynradd Pencoed 26 Chwefror 2018 2.45pm
Aelodau staff Ysgol Gynradd Pencoed 26 Chwefror 2018 3.40pm
Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Pencoed 26 Chwefror 2018 4.30pm
Rhieni disgyblion yn Ysgol Gynradd Pencoed a phobl eraill â buddiant 26 Chwefror 2018 5.30pm

 

Ymgynghoriad

Dyma’r amserlen a ragwelir ar gyfer dilyn y weithdrefn a gweithredu’r cynnig.

Amserlen yr ymgynghoriad.

Digwyddiadau

Dyddiad

Cyfnod ymgynghori pan fyddwn yn croesawu eich sylwadau ar y cynnig*.

9 Chwefror 2018 i 23 Mawrth 2018

Adroddiad Ymgynghoriad i’r Cabinet ar ganlyniadau’r ymgynghoriad.

24 Ebrill 2018

Cyhoeddi Adroddiad Ymgynghoriad ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, bydd copïau papur ar gael drwy wneud cais amdanynt. 2 Mai 2018
Os yw Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cytuno, cyhoeddir hysbysiad cyhoeddus a bydd cyfnod o 28 diwrnod i gyflwyno gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r cynnig. 3 Mai 2018
Diwedd cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus. Os na fydd unrhyw wrthwynebiadau, gall y Cabinet benderfynu ar unwaith a yw’n bwrw ymlaen â’r cynnig ai peidio. Os oes unrhyw wrthwynebiadau, cyhoeddir Adroddiad Gwrthwynebiad a’i gyflwyno i’r Cabinet i’w ystyried a phenderfynu arno wedyn. 31 Mai 2018
Ei weithredu o bosibl. 1 Medi 2018

*Sylwer na chaiff ymatebion i’r ymgynghoriad eu hystyried yn wrthwynebiadau i’r cynnig ac nad yw’n bosibl cofnodi gwrthwynebiad hyd nes ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad cyhoeddus.

Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau

Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.

Chwilio A i Y