Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad ar y Drafft Cynllun Llesiant

Mae Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr a Chwm Taf Morgannwg wedi creu Drafft Cynllun Llesiant ar gyfer ardal gyfan Cwm Taf Morgannwg gan gynnwys Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. 

Mae llesiant yn ymwneud ag ansawdd bywyd, a chysylltiad hynny â’r amgylchedd, yr economi, y gwasanaethau sydd eu hangen arnom a’r diwylliant rydym yn ei rannu.

Daeth yr Asesiad Llesiant â gwybodaeth genedlaethol a lleol ynghyd, gan gynnwys canfyddiadau o ymgysylltu â phobl sydd wedi rhoi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth i ni nad oes gan bob cymuned fynediad teg at gyfleoedd, a bod ganddynt heriau unigol sy’n cael effaith ar eu llesiant. Mae’r drafft Cynllun Llesiant yn amlinellu sut y byddwn yn cydweithio i gyflawni hyn.

Dweud eich dweud

I ddweud eich dweud, cwblhewch ein harolwg byr:

Dyddiad Cau: 10 Chwefror 2023

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â: psb@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y