Cofrestru ar gyfer gwasanaethau Fy Nghyfrif
Gwasanaeth wedi’i bersonol i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Fy Nghyfrif. Mae cofrestru'n gyflym ac yn hawdd a’r cyfan sydd ei angen arnoch i ddechrau yw cyfeiriad e-bost. Mae defnyddio Fy Nghyfrif i gyflwyno eich ffurflenni yn golygu eu bod yn ein cyrraedd yn syth, gan arbed amser ac arian i chi.
Cofrestrwch gyda Fy Nghyfrif nawr a gwneud ceisiadau ar-lein am lefydd mewn ysgolion.
Hefyd gallwch ymgeisio am barcio preswylwyr yn Fy Nghyfrif.
Treth gyngor
Gyda Fy Nghyfrif, gallwch wneud y canlynol:
- Talu eich treth gyngor
- Gweld eich bil treth gyngor
- Trefnu debyd uniongyrchol
- Rhoi gwybod i ni eich bod yn symud tŷ
- Gwneud cais am ostyngiadau ac eithriadau
- Newid dyddiad eich debyd uniongyrchol
- Newid y cyfrif banc y mae eich debyd uniongyrchol yn dod allan ohono
- Cofrestru ar gyfer e-filiau'r dreth gyngor fel y gallwch weld ac argraffu eich bil ar unrhyw adeg
Budd-dal tai a gostyngiad y dreth gyngor
Gyda Fy Nghyfrif, gallwch reoli eich budd-dal tai hefyd. Gallwch:
- Weld eich hawliad am fudd-dal tai
- Gwneud cais am fudd-dal tai
- Rhoi gwybodaeth i ni am newid yn eich amgylchiadau
- Gwneud cais am daliadau tai yn ôl disgresiwn
- Gwneud cais am brydau ysgol am ddim
Os oes angen i chi gyflwyno dogfennau, gallwch wneud hyn yn rhan o’ch cais ar-lein.
Gallwch ddefnyddio gwasanaethau Fy Nghyfrif yn ddiogel drwy fewngofnodi gydag enw defnyddiwr a chyfrinair.