Swyddi Gofal Cymdeithasol
Mae ein gweithwyr gofal yn helpu pobl fregus i fyw mor annibynnol â phosibl, o fewn eu cartref neu sefydliadau preswyl eu hunain.
Rydym yn darparu gofal i bobl hŷn, oedolion gydag anableddau dysgu, a phlant a phobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae gofalu am eraill yn rôl werth chweil, gan gefnogi eraill i fyw bywydau mwy boddhaus. Nid yw hi fyth yn rhy hwyr i hyfforddi fel gweithiwr gofal.
Croesewir profiad, ond nid yw'n angenrheidiol; credwn mai sut un ydych chi fel person, a'r gwahaniaeth allwch chi ei wneud, sy'n bwysig.
"Wnes i erioed fwriadu cael gyrfa ym maes gofal, ac fe lwyddais i symud yn fy mlaen yn bennaf oherwydd fy mod i'n chwilio am y sialens nesaf, ond fel mae'n digwydd, dyna'r symudiad gorau wnes i erioed" - Penny, Rheolwr Cartref Gofal
Gwasanaethau gofal cymdeithasol
Gofal Cymdeithasol Plant
Gweithiwr Cymorth Gofal yn y Cartref
Manteision gweithio gyda ni ym maes Gofal Cymdeithasol
Trwy ymuno â ni gallwch elwa o gyfraddau tâl uwch, hyfforddiant a chymwysterau, cyfleoedd a all arwain at waith cymdeithasol a nyrsio, ac oriau gwaith addas i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau eraill.
Mae buddion eraill yn cynnwys:
- Un o'r rolau mwyaf poblogaidd a boddhaus yn y DU.
- Y cyfle i hyfforddi wrth i chi ddysgu.
- Datblygiad gyrfa parhaus, cymwysterau a chyfleoedd hyfforddiant achrededig.
- Hyblygrwydd ac opsiynau gweithio hybrid.
- Diogelwch swydd a chyflogaeth hirdymor.
- Strwythur rheoli cefnogol.
- Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill

Swyddi gwag diweddaraf
Uwch-weithiwr Preswyl - Darpariaeth asesu a brys - Mewnol yn Unig
Cyflog: £33,366 - £35,235 y flwyddyn
Dyddiad cau: 12/02/2025
Gweithiwr Preswyl Plant - Darpariaeth Asesu ac Argyfwng
Cyflog: £17,974 - £18,566 y flwyddyn
Dyddiad cau: 19/02/2025
Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd - Y Camau Nesaf
Cyflog: £27,711 - £28,624 y flwyddyn
Dyddiad cau: 26/02/2025
Gweithiwr Gofal Cymdeithasol Achlysurol - Gwasanaethau Darparwr
Cyflog: Dyddiau £13.26 yr awr yn yr wythnos £17.68 yr awr ar y penwythnos Nosweithiau £17.68 yr awr yn yr wythnos £19.89 yr awr ar y penwythnos
Dyddiad cau: 19/02/2025