Profiad gwaith
Rydyn ni’n cefnogi ac yn annog lleoliadau gwaith ar draws pob cyfarwyddiaeth ac adran ar gyfer ymgeiswyr o bob oedran a gallu. Rydyn ni’n croesawu ymholiadau gan sefydliadau’r trydydd sector, ysgolion, colegau, prifysgolion, y Ganolfan Byd Gwaith ac unigolion.
Mae proses wedi’i chytuno ar gyfer sicrhau profiad gwaith. Peidiwch â holi’r gwasanaethau yn uniongyrchol.
Y broses ymgeisio
- Anfonwch e-bost i learninganddevelopment@bridgend.gov.uk. Dywedwch wrthym am y canlynol:
- eich enw llawn
- eich ysgol, coleg, prifysgol neu wybodaeth sefydliadol
- hyd bwriadol y lleoliad gyda dyddiadau dechrau a gorffen
- y lleoliad rydych chi’n ei ffafrio, gan gynnwys y gyfarwyddiaeth a’r adran os ydych yn gwybod pa un ydyw
- disgrifiad byr o’r math o waith y mae gennych ddiddordeb ynddo
- yr amcanion a ddymunir ar gyfer y lleoliad
- Bydd yr Adran Adnoddau Dynol yn cysylltu â’r rheolwr adrannol priodol i ofyn a yw’r cais yn bosibl. Er bod adrannau’n cael eu hannog i dderbyn lleoliadau, efallai y bydd gofynion gwaith yn golygu nad yw hyn yn bosibl.
- Os yw adran yn cytuno i leoliad, rhaid iddi gynnal asesiad risg cyn i’r lleoliad ddechrau a rhoi cyflwyniad ar y diwrnod cyntaf. Efallai y bydd yn ofynnol i rywun o’r adran siarad gyda chi i ddechrau i ddeall beth yw eich diddordebau ac asesu eich addasrwydd.
- O dan amgylchiadau lle nad oes modd sicrhau’r lleoliad, byddwn yn dweud wrthych chi cyn gynted â phosib.