Trawsgrifiad o fideo Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Os ydych yn ddinesydd yr UE sy'n byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rydym am i chi allu parhau i fyw, gweithio a chael mynediad at wasanaethau yma, hyd yn oed ar ôl Brexit.
Gallwch barhau i wneud cais ar gyfer Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE os gallwch ddangos sail resymol pam na wnaethoch gais erbyn y dyddiad cau.
Beth yw Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE?
Mae hwn yn gais y dylid bod wedi'i gwblhau erbyn y dyddiad cau ddydd Mercher 30 Mehefin.
Os bydd eich cais hwyr yn llwyddiannus, gallech gael statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog.
Mae llawer o wahanol resymau y gellir eu hystyried fel sail resymol dros gais hwyr. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llywodraeth y DU.
Pwy ddylai wneud cais?
Oni bai fod gennych 'Ganiatâd Amhenodol i Aros' neu eich bod yn ddinesydd Gwyddelig neu Brydeinig, dylech gyflwyno cais hwyr.
Mae hyn yn cynnwys plant a aned yng Nghymru ond nad oes ganddynt Ddinasyddiaeth Brydeinig.
Dylai pasbort Prydeinig gadarnhau hyn.
Gallwch hefyd wirio a oes gennych chi neu'ch plentyn Ddinasyddiaeth Brydeinig drwy ymweld â'r dudalen cymhwysedd.
Os oes angen i chi wneud cais, rhaid i bob aelod o'r teulu gwblhau cais.
Mae hyn yn cynnwys plant ac unrhyw un dan 21 oed.
Gallwch gysylltu cais eich plentyn â chi drwy ddefnyddio cyfeirnod unigryw.
Byddwch yn cael hwn ar ôl i chi gwblhau eich cais eich hun.
Os bydd angen i chi wneud cais, ni fydd y Swyddfa Gartref, Llywodraeth y DU/Llywodraeth Cymru na'r cyngor lleol yn rhoi gwybod i chi.
Rhaid i chi wirio hyn eich hun.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i wefan y cyngor i weld a ydych chi’n gymwys.
Ansicr a oes angen i chi neu aelod o'ch teulu wneud cais?
Peidiwch â phoeni – gallwch gael cyngor a chymorth am ddim o hyd.
I ddod o hyd i sefydliadau a all eich helpu drwy gydol y broses, ewch i wefan y cyngor.
Gallwch hefyd ddod o hyd i arweiniad mewn gwahanol ieithoedd ar wefan y cyngor.
Rydym am i chi barhau i alw Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gartref.
Ewch amdani – cyflwynwch gais hwyr cyn gynted â phosibl!