Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Cyflwynwyd deddf o’r enw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn 2016. Mae wedi creu nodau i bob awdurdod lleol wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal. Bydd y Ddeddf yn gwneud i’r cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf wneud y canlynol:

  • meddwl mwy am y tymor hir
  • gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a’i gilydd
  • ceisio atal problemau
  • gweithredu’n fwy unedig

Bydd y gyfraith newydd yma’n golygu bod rhaid i’r cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn y Ddeddf weithredu mewn ffordd gynaliadwy.

Mae’r Ddeddf wedi sefydlu saith nod llesiant i sicrhau ein bod ni i gyd yn gweithio tuag at yr un weledigaeth. Er mwyn cyflawni’r rhain, mae’r Ddeddf yn gosod gofyniad cyfreithiol ar weinidogion Cymru i bennu dangosyddion cenedlaethol fel cyfrwng i fesur cynnydd.

Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru Adborth ar Hunan-Fyfyrio i Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-Y-Bont ar Ogwr (.PDF 1.49MB)

Chwilio A i Y