Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynllun olrhain cysylltiadau

Mae ‘Profi, Olrhain, Diogelu’ yn fyw yn awr ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac ar draws rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Rydym yn annog trigolion a gweithwyr allweddol yr ardal sy’n dangos symptomau’r coronafeirws i wneud cais am brawf.

Mae’r cynllun yn rhan allweddol o gynllun adfer Covid-19 Llywodraeth Cymru. Mae’n ein helpu ni i sefydlu ffordd newydd o fyw a gweithio ochr yn ochr â’r feirws, gan reoli ei ledaeniad hefyd.

Sut mae’r system yn gweithio

Trawsgrifiad y fideo Prif Swyddog Meddygol.

Mae’r system yn gweithio drwy wneud y canlynol:

  • profi pobl sydd â symptomau’r coronafeirws a gofyn iddynt ynysu oddi wrth deulu ehangach, ffrindiau, cydweithwyr a’u cymuned tra maent yn aros am ganlyniad
  • olrhain unigolion sydd wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi profi’n bositif am y coronafeirws, gan ofyn iddynt gadw at fesurau diogelu a hunanynysu am 10 diwrnod
  • darparu cyngor a chyfarwyddyd, yn enwedig os yw’r person sydd wedi profi’n bositif neu ei gysylltiadau’n agored i niwed neu’n wynebu risg uwch
  • sicrhau os bydd rhywun yn profi’n negatif ei fod yn cael dychwelyd i’r gwaith ac i’w drefn arferol cyn gynted â phosib

Darllenwch ragor o fanylion am y cynllun olrhain cysylltiadau ar y siart llif yma.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Mae gennym ni gefnogaeth amrywiol ar gael i gynorthwyo pobl sy’n hunanynysu. Hefyd, bydd gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael yn cael ei rhoi i bawb sydd wedi gorfod hunanynysu oherwydd prawf coronafeirws positif.

Gwarchod eich hun rhag sgamiau

Trawsysgrif o’r animeiddiad olrhain cysylltiadau gwrth-sgam sy’n cynnwys ‘Helen’.

Mae rhai troseddwyr yn defnyddio’r achosion o’r coronafeirws i sgamio pobl eraill. Maen nhw’n cymryd arnynt eu bod yn weithwyr olrhain cysylltiadau, ond drwy ddilyn ychydig o gamau, gallwch warchod eich hun. Darllenwch y dudalen wybodaeth yma am sgamiau fel eich bod yn gallu dweud y gwahaniaeth rhwng gweithiwr olrhain cysylltiadau a sgamiwr.

Cyfarwyddyd i gyflogwyr a chyflogeion

Mae Cymru Iach ar Waith yn casglu gwybodaeth gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Galw Iechyd Cymru i gyfeirio busnesau at gyfarwyddyd perthnasol. Mae’n cynnwys cyfarwyddyd penodol i sector ar gyfer manwerthu, gweithgynhyrchu, cyfleusterau pecynnu bwyd a chig, chwaraeon a hamdden, busnesau anifeiliaid, y diwydiannau creadigol, busnesau coedwigaeth a thwristiaeth.

Yn fuan, bydd dogfennau cyfarwyddyd penodol i sector pellach yn cael eu cyhoeddi ar gyfer meysydd eraill. Bydd hyn yn cynnwys swyddfeydd a chanolfannau galw, adeiladu, staff sy’n gweithio yng nghartrefi pobl eraill, a defnyddio cerbydau yn y gwaith.

Mae’r wybodaeth gyffredinol i gyflogeion yn cynnwys y canlynol:

  • cyfarwyddyd ar ddychwelyd i’r gweithle a theithio i’r gwaith
  • sut i wneud cais am nodyn ynysu i’w roi i’ch cyflogwyr os yw’r canlynol yn berthnasol:
    • rydych chi wedi cael cyngor i hunanynysu gan olrheiniwr cysylltiadau
    • mae gennych chi symptomau’r coronafeirws
    • rydych chi mewn swigen gefnogi gyda rhywun sydd â symptomau’r coronafeirws neu’n byw gyda rhywun sydd â’r symptomau
  • cyflog a cholli enillion
  • cyngor ar iechyd a lles
  • cyngor ar warchod eich hun

Mae’r cyngor a’r cyfarwyddyd ychwanegol ar gyfer cyflogwyr yn cynnwys y canlynol:

  • sut i gyfathrebu’r strategaeth Profi Olrhain Diogelu gyda phecyn adnoddau o bosteri digidol a phosteri i’w hargraffu, asedau cymdeithasol a fideo esboniadol
  • yr angen am weithdrefnau glanhau gwell a hylendid yn y gwaith
  • mesurau y gall cyflogwyr eu rhoi ar waith i helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws
  • asesu anghenion gweithwyr unigol/cyflogeion sy’n gweithio o gartref
  • asesiadau risg ar y lefel briodol o Gyfarpar Diogelu Personol
  • cyflogeion neu aelodau o’u teulu sy’n gwarchod eu hunain
  • sut i wirio a yw nodyn ynysu yn ddilys
  • ffreutur a mannau gorffwys
  • grantiau a chynlluniau cyllido i fusnesau

Pum cam allweddol i helpu i gadw pobl yn ddiogel yn y gwaith

Wrth i nifer cynyddol o fusnesau ailagor, gofynnir i gyflogwyr ddilyn pum cam allweddol i helpu i gadw pobl yn ddiogel yn y gwaith.

Mae’r camau, sydd wedi’u datgan gan Lywodraeth Cymru, fel a ganlyn:

  1. Cynnal asesiad risg Covid-19
  2. Helpu staff i weithio o gartref os yw hynny’n bosib
  3. Gweithredu i sicrhau bod 2m o bellter corfforol yn cael ei gadw rhwng pobl yn eich eiddo, os yw hynny’n bosib   
  4. Gweithredu mesurau eraill i helpu i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â Covid-19 yn eich eiddo, er enghraifft, cynyddu gweithdrefnau glanhau, golchi dwylo a hylendid da               
  5. Mynd ati i weithredu Profi, Olrhain, Diogelu yn y gweithle

Mwy o wybodaeth am y pum cam allweddol i helpu i gadw pobl yn ddiogel yn y gwaith.

Cyfarwyddyd i bobl hunangyflogedig

Y cyngor gan Lywodraeth Cymru yw parhau i weithio o gartref os yw hynny’n bosib. Os nad yw hynny’n bosib, dylid defnyddio’r cyfarwyddyd ar Diogelu Cymru yn y Gwaith.

Chwilio A i Y