Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont

Sefydlwyd Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus (BGC) Pen-y-bont ar Ogwr ar 1 Ebrill 2016 ac mae’n dod â chyrff cyhoeddus ynghyd, sy’n darparu cyfleoedd yn lleol i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Pen-y-bont ar Ogwr drwy osod amcanion a fydd yn cyflawni’r nodau llesiant a amlinellwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 2015.

Mae’r BGC yn gwneud hyn drwy:

  • Asesu cyflwr lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn yr ardal
  • Pennu amcanion sydd wedi’u cynllunio i wneud y mwyaf o gyfraniad y BGC at y nodau llesiant.

Rhaid iddo wneud hyn yn unol â’r egwyddor datblygu gynaliadwy sy’n golygu bod angen i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sicrhau ei fod yn ystyried yr effaith y gall ei phenderfyniadau ei gael ar bobl sy’n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol. 

Rhaid iddo baratoi a chyhoeddi cynllun sy’n nodi ei amcanion a’r camau y bydd yn eu cymryd i’w cyflawni. Gelwir hyn yn Gynllun Llesiant Lleol. Rhaid iddo ddweud:

  • Pam mae’r BGC yn teimlo y bydd ei amcanion yn cyfrannu o fewn ei ardal leol at gyflawni’r nodau llesiant, a
  • Sut mae’r BGC wedi ystyried yr Asesiad o Lesiant Lleol wrth osod ei amcanion a’r camau i’w cymryd.

Chwilio A i Y