Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Camerâu Cylch Cyfyng ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Rydym yn gweithredu gamerâu sy’n cofnodi ar raddfa o 12.5 ffrâm yr eiliad. Rydym yn gweithredu camerâu goruchwylio er mwyn gwneud y canlynol:

  • atal a chanfod troseddau
  • adnabod troseddwyr i’w harestio a’u herlyn
  • lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • lleihau’r ofn am droseddu
  • cadw a datblygu llwyddiant busnes ein canol trefi a’r gymuned ehangach

Cael mynediad i ddeunydd camerâu goruchwylio at ddibenion cyfreithiol  

Mae gennych hawl i wneud ‘cais am fynediad i destun data’ o dan Ran 3, Pennod 3 Deddf Diogelu Data GDPR 2018. Bydd y lluniau a roddir o’r unigolyn sy’n cyflwyno’r cais yn unig.  

Os yw deunydd yn gallu bod o help gyda mater cyfreithiol, gofynnwch i’r heddlu, eich cyfreithiwr neu eich cwmni yswiriant gysylltu â ni i’w gael. Nid yw’r cyhoedd yn cael mynd i mewn i’r ystafell reoli i weld y lluniau.  

Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i osod rhagor o gamerâu sefydlog mewn gofod agored cyhoeddus.

Nid ydym yn bwriadu gosod unrhyw gamerâu sefydlog eraill mewn mannau agored cyhoeddus. Fodd bynnag, mae gennym nifer fechan o gamerâu symudol y gellir eu gosod mewn safleoedd dros dro. Penderfyniad Partneriaeth Diogelwch Cymuned Pen-y-bont ar Ogwr yw lleoliad y camerâu hyn, mewn ymateb i lefelau uchel o adroddiadau ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â saferbridgend@bridgend.gov.uk

Mae pob camera mewn gofod cyhoeddus agored yn gweithio’n llawn ac yn recordio. Os bydd camera’n torri, rhoddir bag dros y camera neu bydd yn cael ei symud nes cael ei atgyweirio.

Nid yw’r Ddeddf Diogelu Data’n berthnasol i ddeiliaid tai sydd â chamerâu ar eu heiddo at ddefnydd personol. Felly gall camerâu ar eich cartref fonitro priffyrdd cyhoeddus, fel rhywun yn rhoi camera ar ei dŷ i fonitro ei gar ar heol y cyngor.

Yr Uned Gefnogi Gymunedol i Gwsmeriaid

Ffôn: 01656 643643

Chwilio A i Y