Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Archwiliad etholiadol

Bob blwyddyn, rydym yn gofyn i aelwydydd gadarnhau eu manylion etholiadol.

Mae'r canfasio blynyddol yn gofyn i'r Adran Gofrestru Etholiadol gysylltu â phob cyfeiriad preswyl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn canfod a yw'r wybodaeth sydd gennym ar y Gofrestr Etholiadol yn gywir ac yn gyfan.

Noder: Mae'n bwysig eich bod yn ymateb i'ch ffurflen holi am gyfathrebu cyn gynted â phosibl os oes gennych unrhyw newidiadau i'w gwneud.

Yn Eisiau Canfaswyr Cofrestr Etholiadol

Mae’r tîm etholiadol yn awyddus i groesawu pobl i weithio fel Canfaswyr Cofrestr Etholiadol.

Mae hyn yn cynnwys anfon llythyrau canfasio at yr holl eiddo mewn ardal benodol, ac yn ddiweddarach, casglu ymateb gan eiddo nad ydynt wedi ymateb.

Yr ardaloedd sydd ar gael ar hyn o bryd yw:

  • Melin Ifan Ddu
  • Nant-y-moel
  • Cwm Ogwr
  • Evanstown
  • Caerau – Ardal Nantyffyllon

Os oes gennych chi, neu unrhyw aelod o’ch teulu neu ffrindiau, ddiddordeb mewn ymgymryd â’r gwaith hwn, anfonwch e-bost at electionstaff@bridgend.gov.uk am ragor o wybodaeth a ffurflenni cais.

Nodwch: Bydd angen casglu ffurflenni ar 19 Awst 2022.

Chwilio A i Y