Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymweliadau gan y Maer ar ben-blwyddi a dathliadau eraill

Ar wahoddiad, bydd y maer yn ymweld â thrigolion sy’n dathlu 60, 65 a 70 mlynedd o briodas, neu bobl sy’n troi’n 100 oed.

Fel rhan o’r diwrnod, bydd y gyrrwr yn tynnu llun. Llun ar gyfer eich albwm chi ac albwm y maer fydd hwn, ac felly os ydych chi eisiau i bapur newydd fod yn bresennol, rhaid i chi gysylltu â’r papur hwnnw yn uniongyrchol.

Trefnu ymweliad gan faer

  1. Cysylltwch â Pharlwr y Maer ar 01656 643132 neu 643130 er mwyn i’r swyddfa drefnu ymweliad ar y diwrnod.
  2. Fel bod gan y maer rywfaint o wybodaeth am y rhai mae’n ymweld â hwy, byddwn yn gofyn am rywfaint o wybodaeth gefndir. Mae’r wybodaeth yn gyfrinachol ac at ddefnydd y maer yn unig.

Cerdyn o Balas Buckingham

Gallwch wneud cais am gerdyn o’r palas. Defnyddiwch y ddolen uchod a llenwi’r cais ar-lein hyd at bum wythnos cyn y digwyddiad.

Chwilio A i Y