Cyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog
Mae Cyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog yn gynllun cenedlaethol i wella dealltwriaeth o broblemau yng nghymunedau lleol y lluoedd.
Llofnododd cynrychiolwyr o gymuned y lluoedd arfog, elusennau’r lluoedd arfog, a sefydliadau’r sector cyhoeddus, preifat a chymunedol, ein cyfamod cymunedol ar 22 Tachwedd 2013.
Pwrpas y cyfamod cymunedol yw cefnogi cymuned wasanaethu’r ardal a hybu dealltwriaeth o faterion sy’n effeithio ar gymuned y lluoedd yn lleol. Mae’r cyfamod yn cynnwys pum nod:
- Annog pobl leol i gefnogi cymuned y lluoedd arfog yn eu hardaloedd.
- Meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r materion sy’n effeithio ar gymuned y lluoedd arfog.
- Cydnabod a chofio aberth cymuned y lluoedd arfog.
- Annog gweithgareddau sy’n integreiddio cymuned y lluoedd arfog yn rhan o fywyd lleol.
- Annog cymuned y lluoedd arfog i gefnogi’r cyhoedd, boed drwy ddigwyddiadau a phrosiectau ar y cyd neu weithgareddau eraill.
Grant y Cyfamod Cymunedol
Mae Cronfa’r Cyfamod yn darparu cefnogaeth ariannol i’r rhai sy’n gadael y lluoedd arfog. Hefyd, mae’n integreiddio cymunedau milwrol a sifilaidd drwy brosiectau a gweithgareddau lleol.
Cyn cyflwyno, dylai ymgeiswyr ddarllen y nodiadau cyfarwyddyd a rhoi digon o amser i Bartneriaeth Leol y Cyfamod ystyried eu cais.
Hyrwyddwr y lluoedd arfog
Y Cynghorydd Martyn Jones yw hyrwyddwr y lluoedd arfog ar ein rhan. Mae’r hyrwyddwr yn codi proffil cymuned y lluoedd arfog ac yn gweithio i sicrhau gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o’i phroblemau. Mae’n eirioli ar ei rhan ac yn sicrhau bod ei buddiannau’n cael ystyriaeth a blaenoriaeth briodol yn ein polisïau a’n strategaethau.
Dyma nodau Fforwm y Lluoedd Arfog Pen-y-bont ar Ogwr:
- monitro cyflawni amcanion y cyfamod
- parhau i adnabod anghenion y personél gwasanaethu presennol a’r cyn-bersonél, a’u teuluoedd
- ystyried ac asesu addasrwydd unrhyw geisiadau i Gynllun Grant Cyfamod y Lluoedd Arfog, cyn eu cyflwyno’n ffurfiol
- gwella’r rhannu a’r cofnodi ar wybodaeth am ein lluoedd arfog
Gwefannau â’u ffocws ar gymorth:
- mae elusen y lluoedd arfog, yr SSAF (Cymdeithas y Milwyr, y Morwyr, yr Awyrenwyr a’u Teuluoedd) yn cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol
- mae gan gangen Pen-y-bont ar Ogwr o’r Lleng Brydeinig Frenhinol fanylion am gyfarfodydd lleol
- ewch i wefan yr elusen Sorted am amrywiaeth o wasanaethau a chymorth cysylltiedig â chyflogaeth ar gyfer cymuned y lluoedd, i ddod o hyd i waith a’i gadw
- Change Step yw gwasanaeth mentora cyfoedion ar gyfer cyn-filwyr
- mae tudalen Feterans GIG Cymru am Gyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog yn canolbwyntio ar wasanaethau iechyd meddwl arbenigol ar gyfer cyn-filwyr
- cefnogaeth i aelodau presennol y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd gan Lywodraeth Cymru
Rhagor o wybodaeth am y cyfamod:
- mae gan dudalen Llywodraeth Cymru am Gyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog adnoddau ar gyfer cyflogwyr ac ar gyfer dod o hyd i waith
- mae gan dudalen Gov.UK am Gyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog gyfarwyddyd ar gyfer sawl grŵp mewn cymdeithas
- mae tudalen CLlLC (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru) ar Gyfamod Cymuned y Lluoedd Arfog yn disgrifio ei chefnogaeth i’r cynllun