Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddf newydd o’r enw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn 2016.
Creodd nodau ar gyfer pob awdurdod, i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal:
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Hefyd dywed y Ddeddf ei bod yn ofynnol yn gyfreithiol i bob awdurdod lleol greu BGC, ac aethom ati i greu ein Bwrdd ni ar 1 Ebrill 2016.