Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad cymorthdaliadau i fysiau 2019 i 2020

Rydym yn cefnogi rhai gwasanaethau bws rhanbarthol a lleol drwy roi cymhorthdal i lwybrau nad ydynt yn ymarferol yn fasnachol, ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru. Mae’r gwasanaethau hyn yn gweithredu ar lwybrau fel bod y bobl sy’n byw ar eu hyd yn gallu cael mynediad i gyflogaeth, addysg, gofal iechyd a gweithgareddau cymdeithasol.

Yn 2018/19, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus a gofynnwyd i’r trigolion am eu barn am gymorthdaliadau i fysiau a chael gwared ar rai gwasanaethau. Y canlyniad oedd y byddem yn parhau i roi cymhorthdal llawn i dri llwybr bws lleol poblogaidd am 12 mis pellach. Fodd bynnag, cafodd y cyllid ar gyfer dau lwybr oedd yn derbyn cymhorthdal llawn, a phedwar llwybr oedd yn derbyn cymhorthdal rhannol, ei ddileu.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn dilyn penderfyniad gan y cabinet ar yr adroddiad a gyflwynwyd ar 18 Medi 2018. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnig cael gwared ar weddill y cymhorthdal i fysiau ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20. Mae hyn yn rhan o arbedion arfaethedig y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) ar gyfer 2019-20 i 2022-23.

O ganlyniad i benderfyniad y cabinet, gallai’r gwasanaethau bws yn y tabl isod gael eu heffeithio gan y cynnig hwn:

Y gwasanaethau bws gyda chymhorthdal a effeithir gan yr ymgynghoriad hwn.
Rhif y gwasanaeth Gweithredwr Llwybr Cyllid llawn neu rannol
67 First Cymru Pen-y-bont ar Ogwr i Abercynffig drwy Ben-y-Fai (Llun i Sadwrn) Cyllid rhannol
37 Easyway Stad Parc Maesteg (yn ystod y dydd, Llun i Sadwrn) Cyllid llawn
73 First Cymru Pen-y-bont ar Ogwr i Flaengarw, (gyda’r nos, Llun i Sadwrn) Cyllid rhannol
76 First Cymru Pen-y-bont ar Ogwr i’r Betws, Gwyriad Vale View (Llun i Sadwrn) Cyllid rhannol
51 Easyway Pen-y-bont ar Ogwr i Heol Oaklands, Pen-y-bont ar Ogwr, drwy Stryd Parc (yn ystod y dydd, Llun i Sadwrn) Cyllid llawn
803 Easyway Danygraig i Borthcawl (Llun i Sadwrn) Cyllid llawn
61 Peyton Travel Cylch Nottage i Borthcawl (Llun i Sadwrn) Cyllid llawn
16 Easyway Pen-y-bont ar Ogwr i Flaengarw drwy Heol-y-Myndd a Braich-y-cymer (yn ystod y dydd, Llun i Sadwrn) Cyllid llawn
Amserlen yr ymgynghoriad
Gweithgaredd Dyddiad
Cyfnod yr ymgynghoriad pryd rydym yn croesawu eich safbwyntiau ar y cynnig. 17 Rhagfyr 2018 i 10 Mawrth 2019
Adroddiad yr ymgynghoriad i’r Cabinet ar ganlyniadau’r ymgynghoriad. 16 Ebrill 2019
Cyhoeddi adroddiad yr ymgynghoriad ar dudalen ymgynghori ein gwefan 24 Ebrill 2019

Sut i ymateb

Gallwch fynegi eich safbwyntiau drwy naill ai gwblhau:

Mae fformatau eraill ar gael hefyd ar gais.

Cyswllt

Y Tîm Ymgynghori ac Ymgysylltu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643664
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Cofiwch y gallwch chi leisio eich barn o hyd ar wella gwasanaethau’r cyngor drwy ymuno â’r Panel Dinasyddion.

Chwilio A i Y