Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad cyllideb 2018

Trosolwg o’r ymgynghoriad

Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, rydym wedi gwneud arbedion cyllidebol o fwy na £30 miliwn. Dyma rai o’r ffyrdd rydym wedi cyflawni hyn:

  • torri’n ôl ar uwch reolwyr a gostyngiad o fwy na 400 o gyflogeion yn ein gweithlu
  • trosglwyddo gwasanaethau diwylliannol i Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen
  • lleihau’r ddarpariaeth o rai gwasanaethau fel cyfleustodau cyhoeddus a glanhau strydoedd

Hefyd rydym wedi gwneud amrywiaeth eang o fuddsoddiadau, gan gynnwys ysgolion newydd cwbl fodern, amddiffynfeydd môr newydd a gwelliannau newydd i briffyrdd.

Er gwaetha’r newidiadau sydd wedi’u gwneud hyd yma, mae’n rhaid i ni wneud arbediad pellach o £35 miliwn erbyn 2023, sy’n 13.5% o’n cyllideb net ar hyn o bryd.

Yn yr ymgynghoriad hwn mae rhai o’r meysydd rydym yn eich holi amdanynt yn cynnwys y canlynol:

  • treth gyngor
  • gwasanaethau hamdden a diwylliannol
  • ysgolion ac addysg
  • trafnidiaeth
  • ailgylchu a gwastraff
  • gwasanaethau cymdeithasol

Ymateb ac ennill gwobr*

Bydd pawb 13 oed a hŷn sy’n llenwi’r arolwg yma’n cael cyfle i fod yn rhan o raffl fawr i ennill un o’r canlynol:

  • tocyn i deulu o bedwar i bantomeim Neuadd y Dref Maesteg ar 12 Ionawr 2019
  • tocyn i deulu o bedwar i bantomeim Pafiliwn y Grand, Porthcawl, ar 15 neu 16 Rhagfyr 2018
  • aelodaeth am flwyddyn o Halo Leisure

Telerau ac amodau’n berthnasol i’r raffl.

Raffl fawr

  • Tocyn i deulu o bedwar i bantomeim Neuadd y Dref Maesteg ar 12 Ionawr 2019
  • Tocyn i deulu o bedwar i bantomeim Pafiliwn y Grand, Porthcawl ar 15 neu 16 Rhagfyr 2018
  • Aelodaeth o Halo Leisure am flwyddyn

Telerau ac amodau

Ni fydd ymatebwyr dan 16 oed yn gymwys i gael aelodaeth o Halo Leisure am flwyddyn. Bydd eu henwau’n cael eu rhoi yn y raffl am gyfle i ennill tocyn i deulu o bedwar i bantomeim Neuadd y Dref Maesteg neu Bafiliwn y Grand, Porthcawl.
Byddwn yn anfon manylion enillydd yr aelodaeth o Halo am flwyddyn ymlaen i Halo Leisure, a fydd yn cysylltu â chi’n uniongyrchol. Ar gyfer y tocynnau pantomeim, byddwn yn cysylltu â’r enillwyr yn uniongyrchol.

Ni fyddwn yn rhoi eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn nac unrhyw wybodaeth bersonol arall i unrhyw sefydliad arall.

Edrychwch ar yr hysbysiad preifatrwydd ar ddechrau’r arolwg. Dim ond ar gyfer y raffl fydd eich data personol yn cael eu defnyddio a byddant yn cael eu cadw gan dîm yr ymgynghoriad tan ddiwedd cyfnod yr ymgynghoriad (18 Tachwedd). Ar ôl hyn, byddant yn cael eu tynnu oddi ar ein system yn ddiogel.

Raffl fawr (*dros 13 oed yn unig)

  • Tocyn i deulu o bedwar i bantomeim Neuadd y Dref Maesteg ar 12 Ionawr 2019
  • Tocyn i deulu o bedwar i bantomeim Pafiliwn y Grand, Porthcawl ar 15 neu 16 Rhagfyr 2018
  • Aelodaeth o Halo Leisure am flwyddyn

Telerau ac amodau

Os ydych chi dan 16 oed ni fyddwch yn gymwys i gael aelodaeth o Halo Leisure am flwyddyn. Bydd eich enwau’n cael eu rhoi yn y raffl am gyfle i ennill tocyn i deulu o bedwar i bantomeim Neuadd y Dref Maesteg neu Bafiliwn y Grand, Porthcawl.

Byddwn yn anfon manylion enillydd yr aelodaeth o Halo am flwyddyn ymlaen i Halo Leisure, a fydd yn cysylltu â chi’n uniongyrchol. Ar gyfer y tocynnau pantomeim, byddwn yn cysylltu â’r enillwyr yn uniongyrchol (gydag ieuenctid 13 i 16 oed, bydd hyn drwy eich ysgol).

Ni fyddwn yn rhoi eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn nac unrhyw wybodaeth bersonol arall i unrhyw sefydliad arall.

Edrychwch ar yr hysbysiad preifatrwydd ar ddechrau’r arolwg. Dim ond ar gyfer y raffl fydd eich data personol yn cael eu defnyddio a byddant yn cael eu cadw gan dîm yr ymgynghoriad tan ddiwedd cyfnod yr ymgynghoriad (18 Tachwedd). Ar ôl hyn, byddant yn cael eu tynnu oddi ar ein system yn ddiogel.

* Gwaetha’r modd, nid yw ieuenctid dan 13 oed yn gymwys i gymryd rhan yn y raffl.

 

Sut i ymateb

Bydd yr ymgynghoriad yma’n dechrau ar 24 Medi ac yn cau ar 18 Tachwedd 2018. Gallwch ymateb neu holi rhagor o gwestiynau gan ddefnyddio’r opsiynau canlynol:

Cyswllt

Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Fformatau eraill ar gael hefyd, ar gais.

Gweithdai ymgysylltu

Hefyd gallwch ymateb yn ein gweithdai ymgysylltu cymunedol.

Amserlen o weithdai ymgysylltu cymunedol.
Dyddiad Lleoliad Amser
Dydd Llun 24 Medi Llyfregell Sarn 9:30am tan 12:30pm
Dydd Mawrth 25 Medi Llyfregell Pencoed 9:30am tan 12:30pm
Dydd Iau 27 Medi Llyfregell Betws 2pm tan 6pm
Dydd Gwener 28 Medi Llyfregell Y Pîl 9:30am tan 12:30pm
Dydd Llun 1 Hydref Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr 9:30am tan 12:30pm
Dydd Gwener 12 Hydref Llyfrgell Maesteg 9:30am tan 12:30pm
Dydd Llun 22Hydref Llyfrgell Abercynffig 9:30am tan 12:30pm
Dydd Mawrth 23 Hydref Llyfrgell Y Llynfi 9:30am tan 12:30pm
Dydd Iau 25 Hydref Llyfrgell Pontycymer 9:30am tan 12:30pm
Dydd Llun 29 Hydref Llyfrgell Porthcawl 9:30am tan 12:30pm
Dydd Mercher 31 Hydref Canolfan Bywyd Cwm Ogwr 10am tan 1pm

Sesiynau cwestiwn ac ateb ar gyfryngau cymdeithasol

Ymunwch â’n sesiynau cwestiwn ac ateb byw ar gyfryngau cymdeithasol gyda’r Prif Weithredwr.

Amserlen o sesiynau cwestiynau cyfryngau cymdeithasol.
Llwyfan Dyddiad Amser
Twitter a Facebook 07 Techwedd 2018 7pm

Dyddiadau ymgynghori pwysig

Amserlen debygol ar gyfer gweithdrefnau a chynigion.
Gweithgaredd Dyddiad
Dyddiad cau ar gyfer ymateb 18 Tachwedd
Adrodd i'r Cabinet ar ganlyniadau'r ymgynghoriad 18 Rhagfyr 2018

A chofiwch, mae cyfle o hyd i chi leisio eich barn ar wella gwasanaethau’r cyngor drwy ymuno â’n Panel Dinasyddion.

Chwilio A i Y