Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghori ar orchymyn gwarchod gofod cyhoeddus

Rydym eisiau eich barn ar gynigion i greu gorchmynion Gwarchod Gofod Cyhoeddus (PSPO) i fynd i’r afael â baw cŵn a phroblemau eraill cysylltiedig â chŵn.

Rydym yn cynnig cyflwyno PSPO. Mae ganddo botensial i greu cyfyngiadau a rheolau ar gyfer perchnogion cŵn, sy’n cynnwys y canlynol:

  • cynnig un ar faw cŵn, sy’n berthnasol i bob lle cyhoeddus ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • cynnig dau ar symud baw, sy’n dweud bod rhaid i’r person sy’n gyfrifol am y ci fod â bag neu ddull addas arall o fynd â’r baw gydag ef
  • cynnig tri ar ‘gŵn ar dennyn drwy gyfarwyddyd’, sy’n berthnasol i bob lle cyhoeddus ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Amserlen yr ymgynghoriad

Dyma ddyddiadau allweddol yr ymgynghoriad hwn.
Cam ymgynghori Dyddiad
Arolwg yn fyw 5 Rhagfyr 2018
Arolwg yn cau 26 Chwefror 2019
Adroddiad i'r cabinet 16 Ebrill 2019

Sut i ymateb

Gallwch gyflwyno eich barn drwy lenwi’r ffurflen ymateb isod neu lenwi’r arolwg ar-lein yn:

Tîm Ymgynghori ac Ymgysylltu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643664
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Mae fformatau eraill ar gael hefyd ar gais.

Cofiwch fod cyfle o hyd i chi leisio eich barn ar wella gwasanaethau’r cyngor drwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.

Chwilio A i Y