Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ysgol Gynradd Afon y Felin

Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau

Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.

Cynnig i wneud newid rheoledig i Ysgol Gynradd Afon y Felin drwy ehangu.

Dogfennau cysylltiedig

Darlun cyffredinol

Cynigir gwneud newid rheoledig i Ysgol Gynradd Afon y Felin drwy ei hehangu'n barhaol – o’r ysgol bresennol, gyda lle i 117 o ddisgyblion 4-11 mlwydd oed (ynghyd â meithrinfa gyda 39 o leoedd), i ysgol gyda lle i 131 o ddisgyblion (ynghyd â meithrinfa gyda 23 o leoedd), i fod yn weithredol o’r 1af o Ebrill 2017.

Sut i ymateb

Bydd y cyfnod ymgynghori yn dechrau ar 22 Tachwedd 2016 ac yn dod i ben ar 6 Ionawr 2017.

Cyswllt:

Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 642617
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Mae croeso i chi ofyn am fformatau gwahanol hefyd.

Cynhelir cyfarfodydd ymgynghori a sesiynau galw heibio y mae modd i chi gadw lle ar eu cyfer, fel y manylir dros y ddalen ar gyfer y gwahanol bartïon sydd â diddordeb.

Os ydych chi angen i’r cyfarfodydd/sesiynau ymgynghori hyn gael eu cynnal yn Gymraeg, cysylltwch ag Ellen Franks ar 01656 642617 cyn gynted â phosibl.

Amserlen cyfarfodydd yn Ysgol Gynradd Afon y Felin.
Lleoliad: Ysgol Gynradd Afon y Felin Dyddiad Amser
Cyfarfod â’r Staff a’r Corff Llywodraethu 5 Rhagfyr 2016 4pm
Cyfarfod gyda Chyngor yr Ysgol 12 Rhagfyr 2016 10.00am
Sesiynau galw heibio ar gyfer rhieni, gofalwyr, aelodau o'r gymuned leol a’r holl bartïon eraill sydd â diddordeb 12Rhagfyr 2016 4pm - 6pm

* Cysylltwch ag Ellen Franks ar 01656 642617 i gadw lle ar gyfer y sesiwn galw heibio.

Ymgynghoriad

Dyma’r amserlen a ragwelir ar gyfer dilyn y weithdrefn a gweithredu’r cynnig.

Amserlen yr ymgynghoriad.
Camau Dyddiad
Cyfnod ymgynghori pan fyddwn yn croesawu eich barn a'ch sylwadau ar y cynnig*. 22 Tachwedd 2016 - 6 Ionawr 2017
Adroddiad yr Ymgynghoriad i'r Cabinet ar ganlyniadau'r ymgynghoriad. 31 Ionawr 2017
Cyhoeddi Adroddiad yr Ymgynghoriad ar wefan CBSPO; copïau caled ar gael ar gais. 3Chwefror 2017
Os bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cytuno â’r cynnig, cyhoeddir Hysbysiad Cyhoeddus a bydd cyfnod o 28 diwrnod i gyflwyno unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig yn ysgrifenedig. 3Chwefror 2017
Diwedd cyfnod yr Hysbysiad Cyhoeddus. Os na fydd unrhyw wrthwynebiadau, gall y Cabinet benderfynu ar unwaith p’un ai symud ymlaen ynteu peidio. Os bydd yna unrhyw wrthwynebiadau, cyhoeddir Adroddiad Gwrthwynebiadau a’i anfon i'r Cabinet i gael ei ystyried ac ar gyfer penderfyniad yn dilyn hynny. 3 Mawth 2017
Gweithredu posibl. 1Ebrill 2017

*Sylwch na fydd ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu cyfrif fel gwrthwynebiadau i’r cynnig ac y gellir cofrestru gwrthwynebiadau yn dilyn cyhoeddi Hysbysiad Cyhoeddus yn unig.

Mae’r ymgynghoriad hwn bellach wedi ei gau

Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.

Chwilio A i Y