Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynhoriad Gorchymyn Diogelu Man Cyhoeddus

Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014

Gorchymyn Diogelu Man Cyhoeddus

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gofyn am eich barn ar gynigion i greu Gorchmynion Diogelu Man Cyhoeddus er mwyn:

a)      Gwahardd yfed alcohol mewn mannau penodedig

b)      Cyfyngu mynediad cyhoeddus i rannau o’r briffordd drwy osod gât sy’n cael ei chloi ar adegau penodedig.

Bwriad Gorchmynion Diogelu Man Cyhoeddus yw atal unigolion neu grwpiau rhag cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn man cyhoeddus. Bwriedir iddynt ymdrin â niwsans neu broblem benodol mewn ardal benodol sy’n niweidiol i ansawdd bywyd y gymuned leol, drwy osod amodau ynglŷn â defnyddio’r ardal, a’r amodau hynny’n gymwys i bawb. 

Fe’u bwriedir i sicrhau bod y mwyafrif ufudd i’r gyfraith yn cael defnyddio a mwynhau mannau cyhoeddus, yn ddiogel rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Gallant gael eu gorfodi gan swyddogion heddlu, swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu a swyddogion cyngor.

Mae torri Gorchymyn Diogelu Man Cyhoeddus yn drosedd.  Gall swyddogion gorfodi roi hysbysiad cosb benodedig o hyd at £100 os yw’n briodol, neu yn sgil collfarniad mewn Llys gall person gael dirwy o hyd at £1,000. 

Caiff unrhyw un sy’n byw yn yr ardal neu sy’n gweithio ynddi neu’n ymweld â hi yn rheolaidd apelio yn erbyn Gorchymyn Diogelu Man Cyhoeddus yn yr Uchel Lys o fewn chwe wythnos ar ôl ei gyhoeddi

Gall Gorchymyn Diogelu Man Cyhoeddus gael ei gyhoeddi os yw’r Cyngor wedi’i fodloni bod y gweithgareddau a gyflawnir mewn man cyhoeddus:

  1. wedi creu, neu’n debyg o greu, effaith andwyol ar ansawdd bywyd y rhai sydd yn yr ardal;
  2. yn barhaus neu’n gyndyn ei natur, neu’n debyg o fod felly;
  3. yn afresymol, neu’n debyg o fod felly; a
  4. yn cyfiawnhau’r cyfyngiadau a osodir.

Trefnwyd bod y Gorchmynion, o’u cymeradwyo, yn dod yn effeithiol o 14 Hydref 2017 ymlaen ac fe fyddant:

  • yn disodli’r pum Gorchymyn Diogelu Man Cyhoeddus presennol
  • yn ymestyn yr ardal sy’n dod o dan y Gorchymyn Diogelu Man Cyhoeddus presennol ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gynnwys Heol Coety, hyd at fynedfa Ysbyty Tywysoges Cymru. Bydd hyn yn ymestyn y parth lle mae gan yr heddlu bwerau i gipio alcohol oddi ar bobl sy’n yfed mewn man cyhoeddus pan fo niwsans neu flinder i aelodau’r cyhoedd, neu anhrefn, wedi’u cysylltu ag yfed diod feddwl yn y fan honno.
  • yn disodli'r Gorchymyn Gatiau presennol ym Maesteg
  • yn disodli'r Gorchymyn Gatiau presennol yng Nghaerau

Gellir gweld copïau o’r Gorchmynion Diogelu Man Cyhoeddus a’r mapiau presennol yma:

Copïau drafft GDMC i'w gweld yma.

Cyflwynir adroddiad ar ganlyniadau’r ymarfer ymgynghori i gyfarfod llawn o’r Cyngor, cyn penderfynu a ddylai’r Gorchmynion Diogelu Man Cyhoeddus gael eu rhoi ar waith.

Bydd yr ymgynghoriad yn agored tan 13/11/2017

Gellir ymateb i’r ymgynghoriad fel a ganlyn:

Llenwch arolwg ar-lein yma

 Anfonwch neges ebost at consultation@bridgend.gov.uk

 Ysgrifennwch at

 Y Tîm Ymgynghori, Ymgysylltu a Chyfathrebu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Y Swyddfeydd Dinesig

Stryd yr Angel

Pen-y-bont ar Ogwr

CF31 4WB

Yn gywir

Martin Morgans

Pennaeth Gwasanaethau Perfformiad a Phartneriaeth


Chwilio A i Y