Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad Ysgolion Cynradd Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr

Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw gwahodd sylwadau ar gynnig a allai ddarparu cyfleusterau addysgol modern newydd yng ngorllewin y fwrdeistref sirol.

Mae'r cynnig yn cynnwys sefydlu ysgol newydd ym Mhlas Morlais yn lle Ysgol Gynradd Corneli ac Ysgol Gynradd Afon y Felin o 1 Medi 2023 ymlaen. Mae'r cynnig hefyd yn amlinellu sut gallai Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg Y Ferch O'r Sgêr ennill adeiladau newydd ac ehangu i safle presennol Ysgol Gynradd Corneli o 2 Medi 2024 ymlaen.

Darllen dogfen Ymgynghori Ysgolion Cynradd Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr a llenwi'r ffurflen.

Adroddiad ymgynghoriad

Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr, hysbysiad o benderfyniad (.PDF 273KB)

Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr, Adroddiad am y gwrthwynebiadau (.PDF 308KB)

Canlyniad yr ymgynghoriad ynghylch y cynnig i foderneiddio ysgolion gorllewin pen-y-bont ar ogwr. (.PDF 1152KB)

Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr, Cynigion Trefniadaeth Ysgolion, Cwestiynau Cyffredin (.PDF 560KB)

Sut i ymateb

Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.

Cysylltu

Y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chefnogi Teuluoedd
Ffôn: 01656 643643
Cyfeiriad: Lindsay Harvey, Cyfarwyddwr Corfforaethol, Uned Cefnogi’r Gyfarwyddiaeth (EDSU), Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel,Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Y Camau Nesaf

Gweithgaredd Dyddiad
Cyfnod yr ymgynghoriad lle rydym yn croesawu eich barn a'ch sylwadau ar y cynnig*. 25 Ionawr 2021 i 7 Mawrth 2021
Adroddiad Drafft yr Ymgynghoriad i'r Cabinet ar ganlyniadau'r ymgynghoriad. 6 Ebrill 2021
Cyhoeddi Adroddiad Cymeradwy'r Ymgynghoriad ar wefan CBSP, copïau papur ar gael ar gais. 12 Ebrill 2021
Os bydd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cytuno iddo, cyhoeddir Hysbysiad Cyhoeddus a bydd cyfnod o 28 diwrnod i gyflwyno unrhyw wrthwynebiad i'r cynnig yn ysgrifenedig. 26 Ebrill 2021

Os nad oes gwrthwynebiad, gall y Cabinet benderfynu a ddylid bwrw ymlaen ai peidio. Os oes unrhyw wrthwynebiad, anfonir Adroddiad Gwrthwynebiad i'r Cabinet i'w ystyried ac ar gyfer penderfyniad wedyn.

Wedyn cyhoeddir yr adroddiad cymeradwy ar wefan CBSP a bydd copïau papur o'r adroddiad ar gael ar gais.

9 Mehefin 2021
Gweithredu.

 

1 Medi 2023 (cyfrwng Saesneg)
2 Medi 2024 (Ysgol Y Ferch O’r Sgȇr)

*Sylwer na fydd ymatebion i'r ymgynghoriad yn cael eu cyfrif fel gwrthwynebiad i'r cynigion. Dim ond yn ystod y cyfnod rhybudd cyhoeddus y gellir cofrestru gwrthwynebiad.

Chwilio A i Y