Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad Polisi Trwyddedu Deddf Gamblo 2005

Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau

Trosolwg

O dan Ddeddf Gamblo 2005, mae'n ofynnol i’r cyngor fel yr awdurdod trwyddedu fabwysiadu Datganiad Egwyddorion sy’n gosod allan sut fydd yn ymdrin â cheisiadau amrywiol am drwyddedau. Mae'n ofynnol i’r cyngor adolygu'r datganiad hwn bob tair blynedd o leiaf.

Mae'r cyngor yn ymgynghori â datganiad polisi'r tair blynedd nesaf ac yn croesawu barn y cyhoedd a phartïon eraill â diddordeb.

Mae hapchwarae yn weithgaredd hamdden poblogaidd sy’n cael ei fwynhau gan lawer. Ceir gwahanol ffyrdd o hapchwarae, gan gynnwys chwarae bingo, betio, neu chwarae ar beiriannau hapchwarae. Cyfrifoldeb y cyngor yw trwyddedu adeiladau a dyroddi trwyddedau i adeiladau hapchwarae, ond y Comisiwn Hapchwarae yw rheoleiddiwr cyffredinol hapchwarae yn y Deyrnas Unedig. Nid yw'r cyngor yn gyfrifol am reoleiddio hapchwarae ar-lein.

Y cynnig

Nid oes unrhyw dueddiadau neu bryderon newydd wedi dod i’r amlwg yn ystod y tair blynedd diwethaf. Felly, nid oes unrhyw newidiadau polisi newydd wedi eu cynnig hyd yma. Mae'r Datganiad Egwyddorion wedi ei adolygu i ddiweddaru proffil yr ardal leol (nifer yr adeiladau) a manylion cyswllt. Fodd bynnag, gall eich barn helpu i nodi mater newydd neu lywio ein rhaglen gydymffurfio yn y dyfodol.

Mae gan y cyngor ddyletswydd gyfreithiol i adolygu ei ganllawiau polisi.

Bydd y polisi yn helpu ymgeiswyr am drwyddedau a'r cyhoedd i ddeall proffil y fwrdeistref sirol a'r broses a ddefnyddir i wneud penderfyniadau.

Sut i ymateb

Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn dechrau ar 31 Awst 2018 and cau ar 9 Tachwedd 2018. Cewch ymateb neu holi mwy o gwestiynau yn y dulliau canlynol:

Mae fformatau eraill hefyd ar gael ar gais.

Ymgynghoriad

Dyma’r amserlen a ragwelir ar gyfer dilyn y weithdrefn a gweithredu’r cynnig.
Camau Dyddiad
Dyddiad terfyn ar gyfer ymateb 9 Tachwedd 2018
Cyhoeddi’r adroddiad terfynol, trwyddedu 17 Rhagfyr 2018

Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n Panel Dinasyddion.

Chwilio A i Y