Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad Polisi Ariannol Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig

Mae nifer o resymau pam nad yw rhai plant yn gallu byw gyda'u rhiant (rhieni) biolegol. Ar yr adegau hyn, mae angen gwneud trefniadau i blant gael gofal gan eraill. Gall rhai plant fyw gydag aelodau eraill o'u teulu, gyda rhieni maeth, rhieni mabwysiadol neu mewn cartrefi gofal.

Mae'n flaenoriaeth i blant gael cartref parhaol pan nad yw'n ddiogel iddynt ddychwelyd i ofal eu rhiant. Gorchymyn Llys yw Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig (GGA) sy'n penodi person(au) penodol i ddod yn Warcheidwad plentyn nes iddo gyrraedd ei 18 oed.

Mae GGA yn cynnig mwy o ddiogelwch na maethu tymor hir ond nid yw'n golygu'r gwahanu cyfreithiol llwyr oddi wrth y teulu biolegol sy'n deillio o orchymyn mabwysiadu.

Gwybodaeth am yr ymgynghoriad hwn

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn cwestiynau i chi am Bolisi Ariannol y Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig. Mae'n gofyn a ydych chi'n credu bod yr wybodaeth yn glir, a oes unrhyw wybodaeth ar goll ac unrhyw sylwadau eraill sydd gennych chi. Mae'r adrannau'n cynnwys y canlynol:

  • cefnogaeth ariannol i ddarpar Warcheidwaid
  • trosolwg o'r broses asesu ariannol
  • dogfennau gofynnol
  • cymhwyso'r prawf modd
  • lwfans atodol
  • cyfrifoldebau Gwarcheidwa(i)d arbennig
  • adolygu
  • terfynu taliadau

Gallwch ddarllen y Polisi Gwarcheidiaeth Arbennig a Pholisi Ariannol y Gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig yn llawn cyn cwblhau'r arolwg.

Sut i ymateb

Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.

Cysylltu

Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu
Ffôn: 01656 643664
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, CF31 4WB.

Chwilio A i Y