Ymgynghoriad cyllideb 2018
Trosolwg o’r ymgynghoriad
Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, rydym wedi gwneud arbedion cyllidebol o fwy na £30 miliwn. Dyma rai o’r ffyrdd rydym wedi cyflawni hyn:
- torri’n ôl ar uwch reolwyr a gostyngiad o fwy na 400 o gyflogeion yn ein gweithlu
- trosglwyddo gwasanaethau diwylliannol i Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen
- lleihau’r ddarpariaeth o rai gwasanaethau fel cyfleustodau cyhoeddus a glanhau strydoedd
Hefyd rydym wedi gwneud amrywiaeth eang o fuddsoddiadau, gan gynnwys ysgolion newydd cwbl fodern, amddiffynfeydd môr newydd a gwelliannau newydd i briffyrdd.
Er gwaetha’r newidiadau sydd wedi’u gwneud hyd yma, mae’n rhaid i ni wneud arbediad pellach o £35 miliwn erbyn 2023, sy’n 13.5% o’n cyllideb net ar hyn o bryd.
Yn yr ymgynghoriad hwn mae rhai o’r meysydd rydym yn eich holi amdanynt yn cynnwys y canlynol:
- treth gyngor
- gwasanaethau hamdden a diwylliannol
- ysgolion ac addysg
- trafnidiaeth
- ailgylchu a gwastraff
- gwasanaethau cymdeithasol
Ymateb ac ennill gwobr*
Bydd pawb 13 oed a hŷn sy’n llenwi’r arolwg yma’n cael cyfle i fod yn rhan o raffl fawr i ennill un o’r canlynol:
- tocyn i deulu o bedwar i bantomeim Neuadd y Dref Maesteg ar 12 Ionawr 2019
- tocyn i deulu o bedwar i bantomeim Pafiliwn y Grand, Porthcawl, ar 15 neu 16 Rhagfyr 2018
- aelodaeth am flwyddyn o Halo Leisure
Telerau ac amodau’n berthnasol i’r raffl.
Raffl fawr
- Tocyn i deulu o bedwar i bantomeim Neuadd y Dref Maesteg ar 12 Ionawr 2019
- Tocyn i deulu o bedwar i bantomeim Pafiliwn y Grand, Porthcawl ar 15 neu 16 Rhagfyr 2018
- Aelodaeth o Halo Leisure am flwyddyn
Telerau ac amodau
Ni fydd ymatebwyr dan 16 oed yn gymwys i gael aelodaeth o Halo Leisure am flwyddyn. Bydd eu henwau’n cael eu rhoi yn y raffl am gyfle i ennill tocyn i deulu o bedwar i bantomeim Neuadd y Dref Maesteg neu Bafiliwn y Grand, Porthcawl.
Byddwn yn anfon manylion enillydd yr aelodaeth o Halo am flwyddyn ymlaen i Halo Leisure, a fydd yn cysylltu â chi’n uniongyrchol. Ar gyfer y tocynnau pantomeim, byddwn yn cysylltu â’r enillwyr yn uniongyrchol.
Ni fyddwn yn rhoi eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn nac unrhyw wybodaeth bersonol arall i unrhyw sefydliad arall.
Edrychwch ar yr hysbysiad preifatrwydd ar ddechrau’r arolwg. Dim ond ar gyfer y raffl fydd eich data personol yn cael eu defnyddio a byddant yn cael eu cadw gan dîm yr ymgynghoriad tan ddiwedd cyfnod yr ymgynghoriad (18 Tachwedd). Ar ôl hyn, byddant yn cael eu tynnu oddi ar ein system yn ddiogel.
Raffl fawr (*dros 13 oed yn unig)
- Tocyn i deulu o bedwar i bantomeim Neuadd y Dref Maesteg ar 12 Ionawr 2019
- Tocyn i deulu o bedwar i bantomeim Pafiliwn y Grand, Porthcawl ar 15 neu 16 Rhagfyr 2018
- Aelodaeth o Halo Leisure am flwyddyn
Telerau ac amodau
Os ydych chi dan 16 oed ni fyddwch yn gymwys i gael aelodaeth o Halo Leisure am flwyddyn. Bydd eich enwau’n cael eu rhoi yn y raffl am gyfle i ennill tocyn i deulu o bedwar i bantomeim Neuadd y Dref Maesteg neu Bafiliwn y Grand, Porthcawl.
Byddwn yn anfon manylion enillydd yr aelodaeth o Halo am flwyddyn ymlaen i Halo Leisure, a fydd yn cysylltu â chi’n uniongyrchol. Ar gyfer y tocynnau pantomeim, byddwn yn cysylltu â’r enillwyr yn uniongyrchol (gydag ieuenctid 13 i 16 oed, bydd hyn drwy eich ysgol).
Ni fyddwn yn rhoi eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn nac unrhyw wybodaeth bersonol arall i unrhyw sefydliad arall.
Edrychwch ar yr hysbysiad preifatrwydd ar ddechrau’r arolwg. Dim ond ar gyfer y raffl fydd eich data personol yn cael eu defnyddio a byddant yn cael eu cadw gan dîm yr ymgynghoriad tan ddiwedd cyfnod yr ymgynghoriad (18 Tachwedd). Ar ôl hyn, byddant yn cael eu tynnu oddi ar ein system yn ddiogel.
* Gwaetha’r modd, nid yw ieuenctid dan 13 oed yn gymwys i gymryd rhan yn y raffl.
Sut i ymateb
Bydd yr ymgynghoriad yma’n dechrau ar 24 Medi ac yn cau ar 18 Tachwedd 2018. Gallwch ymateb neu holi rhagor o gwestiynau gan ddefnyddio’r opsiynau canlynol:
Cyswllt
Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu
Fformatau eraill ar gael hefyd, ar gais.
Gweithdai ymgysylltu
Hefyd gallwch ymateb yn ein gweithdai ymgysylltu cymunedol.
Dyddiad | Lleoliad | Amser |
---|---|---|
Dydd Llun 24 Medi | Llyfregell Sarn | 9:30am tan 12:30pm |
Dydd Mawrth 25 Medi | Llyfregell Pencoed | 9:30am tan 12:30pm |
Dydd Iau 27 Medi | Llyfregell Betws | 2pm tan 6pm |
Dydd Gwener 28 Medi | Llyfregell Y Pîl | 9:30am tan 12:30pm |
Dydd Llun 1 Hydref | Llyfrgell Pen-y-bont ar Ogwr | 9:30am tan 12:30pm |
Dydd Gwener 12 Hydref | Llyfrgell Maesteg | 9:30am tan 12:30pm |
Dydd Llun 22Hydref | Llyfrgell Abercynffig | 9:30am tan 12:30pm |
Dydd Mawrth 23 Hydref | Llyfrgell Y Llynfi | 9:30am tan 12:30pm |
Dydd Iau 25 Hydref | Llyfrgell Pontycymer | 9:30am tan 12:30pm |
Dydd Llun 29 Hydref | Llyfrgell Porthcawl | 9:30am tan 12:30pm |
Dydd Mercher 31 Hydref | Canolfan Bywyd Cwm Ogwr | 10am tan 1pm |
Sesiynau cwestiwn ac ateb ar gyfryngau cymdeithasol
Ymunwch â’n sesiynau cwestiwn ac ateb byw ar gyfryngau cymdeithasol gyda’r Prif Weithredwr.
Llwyfan | Dyddiad | Amser |
---|---|---|
Twitter a Facebook | 07 Techwedd 2018 | 7pm |
Dyddiadau ymgynghori pwysig
Gweithgaredd | Dyddiad |
---|---|
Dyddiad cau ar gyfer ymateb | 18 Tachwedd |
Adrodd i'r Cabinet ar ganlyniadau'r ymgynghoriad | 18 Rhagfyr 2018 |
A chofiwch, mae cyfle o hyd i chi leisio eich barn ar wella gwasanaethau’r cyngor drwy ymuno â’n Panel Dinasyddion.