Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad am Doiledau Cyhoeddus

Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau

Gweler adroddiad y Cabinet, gan gynnwys yr adroddiad ymgynghori a sut rydym wedi ymateb isod.

Dogfennau perthnasol

Cefndir

Yn dilyn gostyngiadau parhaus mewn cyllid gan y llywodraeth ganolog, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gorfod ystyried y ffordd y mae’n gweithio, yn darparu mwy o wasanaethau mewn partneriaeth a gostwng rhai gwasanaethau er mwyn ymdopi â llai.

Cynhaliwyd ymgynghoriad yn 2015 yn adolygu ein toiledau cyhoeddus.  Fel canlyniad, lleihaodd y nifer o doiledau yn ein canolau trefi o naw i chwech a chaewyd troethfeydd.  Mae cyfleusterau i’r anabl yn y toiledau cyhoeddus sydd yn weddill a maent yn cael eu glanhau a’u cadw yn rheolaidd.

Cytunwyd mewn cyfarfod Cabinet ar 3 Hydref 2017 y byddem yn ymgymryd ag adolygiad pellach am ein toiledau cyhoeddus a hoffem gael eich barn chi am nifer o faterion yn perthyn i’r darpariaeth barhaus y gwasanaeth hwn.

Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, byddwn ni’n defnyddio’r barnau hyn i’n helpu yn gwneud penderfyniadau am sut fydd darpariaeth y toiledau cyhoeddus ym meddiant y cyngor, ar draws y sir, yn cael eu gweithredu yn y dyfodol.

Y sefyllfa bresennol

Ar hyn o bryd, mae’r cyngor yn gyfrifol am chwech thoiled cyhoeddus.  Mae’r toiledau yn cael eu staffio gan bedwar gofalwr sy’n gweithio ar system rota yn agor, cau a glanhau’r toiledau yn rheolaidd.

Mae Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) y Cyngor yn bwriadu gostwng y gyllideb ar gael i’r gwasanaeth sy’n gyfrifol am doiledau cyhoeddus ar draws y sir yn fwy.

Mae dau doiled cyhoeddus yng nghanol tref Ben-y-bont ar Ogwr, mae tri thoiled cyhoeddus yng nghanol tref Porthcawl, ac mae un toiled cyhoeddus yn Maesteg.  Mae rhain yn debyg iawn i ganolau trefi eraill megis Pontypridd lle mae dau doiled cyhoeddus a Chastell Nedd lle mae un toiled cyhoeddus.

Cliciwch yma am fanylion y darpariaeth bresennol mewn trefi.

Cynlluniau Cysur

Ailgyflwynwyd y cynllun cysur gan y Cyngor fel rhan o’i adolygiad blaenorol y darpariaeth toiledau cyhoeddus yn y sir.  Mae grantiau bach (hyd at £500 y flwyddyn) ar gael i fusnesau lleol fel rhan o’r cynllun hwn, am ganiatáu i aelodau o’r cyhoedd ddefnyddio eu toiledau.

Mae’r cynllun cysur hwn ar gael ar draws y sir a gwna’r cynllun ddarpariaeth am gael toiledau cyhoeddus sy’n hygyrch, diogel a glan, mewn lleoliadau cyfleus ar gyfer trigolion ac ymwelwyr yn ogystal â’r cyfleusterau ym meddiant y cyngor.

Sut i ymateb

Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn dechrau ar 7 Chwefror and cau ar 4 Ebrill 2018. Cewch ymateb neu holi mwy o gwestiynau yn y dulliau canlynol;

Mae fformatau eraill hefyd ar gael ar gais.

Cofiwch eich bod yn gallu mynegi eich barn ynglŷn â gwella gwasanaethau’r cyngor trwy glicio yma i ymuno â’n panel dinasyddion.

Chwilio A i Y