Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Teithio Llesol 2017

Trosolwg

Ym mis Medi 2014, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) sy'n ei gwneud yn ofyniad cyfreithiol i awdurdodau lleol yng Nghymru fapio a chynllunio llwybrau addas ar gyfer teithio llesol o fewn rhai aneddiadau yn y fwrdeistref sirol, a ddynodwyd gan Lywodraeth Cymru.Active Travel means walking and cycling for everyday short-distance journeys, such as journeys to school, work, or for access to shops or services. Active travel does not include journeys purely made for recreation or social reasons.

Roedd cam cyntaf y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynhyrchu 'Mapiau o’r Llwybrau Presennol’ (MLlP) i ddangos y llwybrau sy'n bodoli eisoes yn y fwrdeistref yr oedd y Cyngor yn eu hystyried yn addas ar gyfer teithio llesol. Nid yw’r MLlP felly yn dangos yr holl lwybrau cerdded a beicio sydd ar gael o fewn ardal.

Gellir gweld manylion y Mapiau Llwybrau Presennol, sydd wedi cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, yma.

Mae ail gam y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor gynhyrchu Mapiau Rhwydweithiau Integredig sy’n nodi cynlluniau’r awdurdod lleol i ddatblygu rhwydwaith o lwybrau a chyfleusterau teithio llesol dros y 15 mlynedd nesaf.

Gellir gweld ein Map Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol drafft trwy glicio ar y ddolen isod.

Mapiau Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (PDF)

Sut i ymateb

Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn dechrau ar 13 Mehefin 2017 and cau ar 1 Medi 2017. Cewch ymateb neu holi mwy o gwestiynau yn y dulliau canlynol:

Cyswllt:

Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643664
Cyfeiriad: Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Post: Dadlwythwch gopi caled o’r arolwg drwy glicio yma. Unwaith rydych wedi ei gwblhau, sganiwch a’i ddychwelyd at activetravel@bridgend.gov.ukneu argraffwch a’i ddychwelyd at ein cyfeiriad.

Ymweliad:

Amserlen cyfarfodydd cyhoeddus ar gyfer yr ymgynghoriad.
Lleoliad Dyddiad Amser
Coleg Pen-y-bont (Campws Pen-y-bont) Dydd Mawrth 13 Mehefin 10am tan 2pm
Coleg Pen-y-bont (Campws Pen-coed) Dydd Mercher 14 Mehefin 10am tan 2pm
Canolfan Fywyd Pen-y-bont Dydd Gwener 16 Mehefin 10am tan 2pm
Canolfan Fywyd Cwm Ogwr Dydd Mawrth 27 Mehefin 10am tan 2pm
Canolfan Fywyd Ynysawdre Dydd Mawrth 4 Gorffennaf 10am tan 2pm
Canolfan Fywyd Betws Dydd Mawrth 11 Gorfennaf 10am tan 2pm
Canolfan Gymunedol Evanstown Dydd Mawrth 18 Gorfennaf 10am tan 2pm
Neuadd Les Pencoed Dydd Mawrth 25 Gorfennaf 10am tan 2pm
Canolfan Fwywd Cwm Garw Dydd Mercher 26 Gorfennaf 10am tan 2pm
Canolfan Fywyd Cwm Ogwr Dydd Mercher 16 Awst 2pm tan 6pm
Asda, Pil Dydd Mercher 23 Awst 10am tan 2pm
Pafiliwn y Grand, Porthcawl Dydd Mercher 30 Awst 10am tan 2pm
Asda, Maesteg Dydd Iau 31 Awst 10am tan 2pm

Chwilio A i Y