Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Polisi Gofalwyr Maeth Pontio Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Polisi Gofalwyr Maeth Pontio Pen-y-bont ar Ogwr yn bolisi newydd a gafodd ei gyflwyno fel rhan o’r rhaglen ailfodelu preswyl. Rydym wedi sefydlu gwasanaeth gofal maeth mewnol, arbenigol i alluogi plant yn y boblogaeth sy’n derbyn gofal i bontio i leoliad parhaol. Mae rôl y gofalwr pontio’n rhan hollbwysig o’r model ‘dim drws anghywir’ sy’n seiliedig ar y model ymarfer seiliedig ar drawma, sydd wedi’i fabwysiadu gan wasanaethau lleoliadau a darparwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. I gyflawni’r canlyniadau a ddymunir, fel rhan o’r dull gweithredu mae plant yn ‘camu i lawr’ o leoliadau preswyl i amgylchedd byw gyda theulu, sy’n cynnwys gweithredu neu barhau â’r pecyn cymorth dwys. Rhan hanfodol o’r cynllun yw’r lefel o fynediad uwch at wasanaethau cymorth a fydd yn parhau i gael eu cynnig ar ôl pontio.

Bydd y cynllun Gofalwr Pontio’n cynnig lleoliadau i blant a phobl ifanc sydd wedi dioddef trawma, gan arwain at amrywiaeth o anghenion cymhleth ac ymddygiadau heriol. Mae hyn yn gofyn am ofalwr sydd â’r gallu, y cymwyseddau a’r profiad gofynnol i weithio fel rhan o dîm i helpu’r plentyn i ennill lefel o ddealltwriaeth, a fydd yn ei gwneud hi’n bosib rheoli emosiynau.

Mae’r polisi newydd yn amlinellu’r canlynol;

  • y fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol;
  • rolau a chyfrifoldebau (y gofalwr maeth pontio, y gweithiwr cymdeithasol sy’n goruchwylio a gweithiwr cymdeithasol y plentyn);
  • sgiliau a chymwyseddau gofalwr maeth pontio;
  • cyfarfodydd am y lleoliad a chyfarfodydd adolygu’r lleoliad;
  • hyfforddiant a chymorth i ofalwyr maeth pontio, gan gynnwys: prosesau paru, seibiant, cymorth therapiwtig a’r Tîm Dyletswydd Brys;
  • taliadau i ofalwyr maeth pontio.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ddogfen ymgynghori Polisi Gofal Maeth Pontio Pen-y-bont ar Ogwr:

Dogfen ymgynghori

Sut mae ymateb

Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.

Chwilio A i Y