Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Is-Ddeddfau Harbwr Porthcawl

Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw gwahodd pobl i fynegi barn am faterion sy'n codi yn Harbwr Porthcawl ac i holi ai mabwysiadu is-ddeddfau newydd yn Harbwr Porthcawl ac adolygu'r is-ddeddfau sydd mewn grym yno ar hyn o bryd, er mwyn adlewyrchu'r gweithrediadau a'r gweithgareddau cyfredol, yw'r ffordd orau i'r Cyngor fwrw 'mlaen.

Byddai'r is-ddeddfau yn cwmpasu'r materion canlynol:-

  • Angori
  • Mordwyo
  • Pysgota
  • Parcio
  • Ymdrochi a phlymio
  • Llifddorau
  • Y llithrfa
  • Cyfyngiadau ar y draethlin
  • Gwastraff
  • Diogelwch
  • Diogeledd
  • Cosbau

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynnwys ei breswylwyr yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Rydym yn awyddus i wybod a ydych chi wedi cael unrhyw broblemau wrth ddefnyddio'r Harbwr.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ddogfen ymgynghori Is-Ddeddfau Harbwr Porthcawl:

Dogfen ymgynghori (.docx 201kb)

Sut mae ymateb

Mae’r ymgynghoriad nawr ar gau.

Chwilio A i Y