Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ardal Rheoli Ansawdd Aer Stryd Parc

Cefndir

Ers i fonitro ansawdd aer Stryd Parc Pen-y-bont ar Ogwr ddechrau yn 2007, mae’r canlyniadau wedi dangos nitrogen deuocsid sydd ychydig yn uwch na’r lefelau blynyddol a ganiateir. Mae’r olaf yn 40 o ficrogramau ar gyfer pob metr ciwbig (40µg/m3). Oherwydd y darlleniadau uchel yma, rydym wedi gwneud rhan o Stryd Parc yn Ardal Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA), fel mae’r cynllun isod yn dangos. Dechreuodd hyn ar 1 Ionawr 2019.

Mae creu ARhAA yn gam positif. Mae’n rhoi ffocws a dull ar gyfer ystyried a defnyddio mesurau priodol i roi hwb i ansawdd yr aer yn yr ardal ac yn y cyffiniau. Mae cyswllt agos rhwng y gwelliannau hyn a gwarchod iechyd a lles trigolion Pen-y-bont ar Ogwr.

(Mae hawlfraint y goron ar y llun a hawliau bas data cysylltiedig ag Arolwg Ordnans 2018 100023424).

Datblygiadau ers sefydlu ARhAA Stryd Parc

Mae ARhAA Stryd Parc wedi bod yn ei lle am 12 mis bron. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi gweithio ar draws ein gwasanaethau a gydag asiantaethau eraill i nodi sawl mesur posib i wella ansawdd aer yr ardal.

Hefyd, rydym wedi bod yn gwneud trefniadau ar gyfer gorsaf monitro ansawdd aer amser real i’w gosod yn ARhAA Stryd Parc.

Y camau nesaf

Yn fuan, byddwn yn ymgynghori ar y mesurau drafft uchod i lunio rhestr derfynol o fesurau ar gyfer y Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer. Mae disgwyl i sawl mesur a ffafrir gael eu defnyddio fel rhan o asesiad manwl i astudio eu heffaith debygol ar ansawdd aer/traffig. Bydd gan drigolion a phartïon eraill sydd â diddordeb sawl ffordd i ymateb i’r ymgynghoriad. Wedyn, mae gennym ni tan 30 Mehefin 2020 i ddatblygu cynllun gweithredu drafft i roi sylw i ansawdd aer, a chwe mis pellach i weithredu’r cynllun.

Gobeithir y bydd y monitro amser real bron ar ddata ansawdd Stryd Parc ar gael ar-lein yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Bydd hyn yn galluogi i drigolion a phartïon eraill sydd â diddordeb eu gweld pan maent yn dymuno.

Cyn hyn, bydd sawl sesiwn galw heibio anffurfiol yn cael eu cynnal, fel y nodir isod.

Y sesiynau galw heibio

Bydd y rhai sy’n mynychu’r sesiynau’n gallu gwneud y canlynol:

  • trafod unrhyw ymholiadau neu bryderon sydd ganddynt gyda swyddogion
  • gwneud awgrymiadau ar gyfer gwella ansawdd aer
  • dysgu mwy yn gyffredinol am yr ARhAA a’r fframwaith deddfwriaethol sy’n cefnogi cydymffurfio ag ansawdd aer yng Nghymru

Bydd y sesiynau i gyd yn cael eu cynnal yn y cyfeiriad isod:

Cysylltu:

Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr

Cyfeiriad: Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AH.
Amserlen y sesiynau galw heibio
Sesiwn Dyddiad Amser
Sesiwn 1 Dydd Gwener 13 Rhagfyr 2019 8:30am i 11am
Sesiwn 2 Dydd Gwener 13 Rhagfyr 2019 4:30pm i 7pm
Sesiwn 3 Dydd Mercher 18 Rhagfyr 2019 8:30am i 11am
Sesiwn 4 Dydd Mercher 18 Rhagfyr 2019 4:30pm i 7pm

Nid oes angen archebu lle a gall trigolion alw heibio unrhyw sesiwn o’u dewis.

Mwy o wybodaeth

Fel dewis arall, cysylltwch â’r Cydwasanaethau Rheoleiddiol sy’n monitro ansawdd aer i ni.

Cysylltu

Cydwasanaethau Rheoleiddiol

Ffôn: 0300 123 6696

Chwilio A i Y