Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad cyllideb 2019

Trosolwg o’r Ymgynghoriad

(Gweld trawsgrifiad y fideo uchod yma).  

Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, rydym wedi gwneud mwy na £27 miliwn o arbedion cyllidebol. Ymhlith y ffyrdd rydym wedi gwneud hyn mae:

  • gwneud y system o uwch reolwyr yn fwy effeithlon a gostyngiad o fwy na 400 o gyflogeion yn ein gweithlu
  • adleoli staff a chau ambell eiddo gan y cyngor
  • datblygu mwy o wasanaethau ar-lein

Hefyd, rydym wedi ailfodelu dau gartref plant, cael gwared ar eiddo ac asedau diangen, ac aildrefnu ein gwasanaethau swyddfa gefn.

Er gwaetha’r newidiadau sydd wedi’u gwneud hyd yma, mae’n rhaid i ni wneud arbediad pellach o £35 miliwn erbyn 2023, sy’n 13.5% o’n cyllideb net bresennol.

Yn yr ymgynghoriad hwn, ymhlith y meysydd y byddwn yn eich holi amdanynt mae’r canlynol:

  • treth gyngor
  • glanhau strydoedd
  • rheoli plâu
  • camerâu cylch cyfyng
  • digartrefedd
  • addysg a gwasanaethau cefnogi
  • gwasanaethau digidol

Ymateb ac ennill gwobr

Bydd pawb 13 oed a hŷn sy’n cwblhau’r arolwg hwn yn cael cyfle i fod yn rhan o raffl i ennill un o’r canlynol:

  • dau docyn i ‘It’s a Wonderful life’ yn Neuadd y Gweithwyr Blaengarw nos Iau 14 Tachwedd
  • tocyn i deulu o bedwar i weld pantomeim ‘Snow White’ yn Y Pafiliwn, Porthcawl nos Sadwrn 14 Rhagfyr
  • aelodaeth blwyddyn o gampfa Halo

Mae telerau ac amodau’n berthnasol i’r raffl

Raffl fawr

  • dau docyn i ‘It’s a Wonderful life’ yn Neuadd y Gweithwyr Blaengarw nos Iau 14 Tachwedd
  • tocyn i deulu o bedwar i weld pantomeim ‘Snow White’ yn Y Pafiliwn, Porthcawl nos Sadwrn 14 Rhagfyr
  • aelodaeth blwyddyn o gampfa Halo

Telerau ac amodau

Dim ond am gyfle i ennill tocyn i deulu o bedwar i weld y pantomeim yn y Pafiliwn ym Mhorthcawl fydd ymatebwyr dan 16 oed yn gymwys.

Byddwn yn anfon manylion enillydd yr aelodaeth blwyddyn o Halo i Halo Leisure, a fydd yn cysylltu â chi’n uniongyrchol. Ar gyfer tocynnau’r pantomeim neu’r sioe, byddwn yn cysylltu â’r enillwyr yn uniongyrchol.

Ni fyddwn yn anfon eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn nac unrhyw wybodaeth bersonol arall ymlaen i unrhyw sefydliad arall.

Edrychwch ar yr hysbysiad preifatrwydd ar ddechrau’r arolwg. Bydd eich data personol yn cael eu defnyddio ar gyfer y raffl yn unig. Byddant yn cael eu cadw gan dîm yr ymgynghoriad tan ddiwedd cyfnod yr ymgynghoriad (3 Tachwedd), ac wedyn byddant yn cael eu dileu’n ddiogel o’n system.

Telerau ac amodau

Dim ond am gyfle i ennill tocyn i deulu o bedwar i weld y pantomeim yn y Pafiliwn ym Mhorthcawl fydd ymatebwyr dan 16 oed yn gymwys.

Byddwn yn anfon manylion enillydd yr aelodaeth blwyddyn o Halo i Halo Leisure, a fydd yn cysylltu â chi’n uniongyrchol. Ar gyfer tocynnau’r pantomeim neu’r sioe, byddwn yn cysylltu â’r enillwyr yn uniongyrchol (ar gyfer y rhai 13 i 16 oed, bydd hyn drwy eich ysgol).

Ni fyddwn yn anfon eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn nac unrhyw wybodaeth bersonol arall ymlaen i unrhyw sefydliad arall.

Edrychwch ar yr hysbysiad preifatrwydd ar ddechrau’r arolwg. Bydd eich data personol yn cael eu defnyddio ar gyfer y raffl yn unig. Byddant yn cael eu cadw gan dîm yr ymgynghoriad tan ddiwedd cyfnod yr ymgynghoriad (3 Tachwedd). Ar ôl hyn, byddant yn cael eu dileu’n ddiogel o’n system.

Sut i ymateb

Bydd cyfnod yr ymgynghoriad hwn yn dechrau ar 9 Medi 2019 ac yn cau ar 3 Tachwedd 2019. Gallwch ymateb neu ofyn cwestiynau pellach fel a ganlyn:

Cyswllt

Cyfathrebu, Marchnata ac Ymgysylltu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Ffôn: 01656 643664
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Dinesig, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Fformatau eraill ar gael hefyd, ar gais.

Gweithdai ymgysylltu

Hefyd gallwch ymateb yn ein gweithdai ymgysylltu cymunedol.

Amserlen o weithdai ymgysylltu cymunedol.
Dyddiad Lleoliad Amser
Dydd Iau 12 Medi Llyfregell Abercynffig 9:30am tan 12:30pm
Dydd Sadwrn 21 Medi Llyfregell Maesteg 9:30am tan 13:00pm
Dydd Llun 23 Medi Llyfregell Pen-y-bont ar Ogwr 4pm tan 7pm
Dydd Iau 26 Medi Llyfregell Betws 2pm tan 4pm
Dydd Llun 30 Medi Llyfrgell Sarn 9:30am tan 12:30pm
Dydd Sadwrn 5 Hydref Llyfrgell Porthcawl 9:30am tan 13:00pm
Dydd lau 10 Hydref Llyfrgell Y Pîl 2pm tan 4pm
Dydd Iau 24 Hydref Llyfrgell Pencoed 11am tan 1pm
Dydd Llun 28 Hydref Canolfan Bywyd Cwm Ogwr 4pm tan 7pm
Dydd Mawrth 29 Hydref Llyfrgell Pontycymer 3pm tan 5pm

Sesiynau cwestiynau ac atebion ar gyfryngau cymdeithasol  

Ymunwch â’n sesiynau cwestiynau ac atebion byw ar gyfryngau cymdeithasol gyda’r Prif Weithredwr.  

Amserlen o sesiynau cwestiynau cyfryngau cymdeithasol.
Llwyfan Dyddiad Amser
Twitter a Facebook 02 Hydref 2019 5.30pm

Dyddiadau ymgynghori pwysig

Amserlen debygol ar gyfer gweithdrefnau a chynigion.
Gweithgaredd Dyddiad
Dyddiad cau ar gyfer ymateb 3 Tachwedd 2019
Adrodd i'r Cabinet ar ganlyniadau'r ymgynghoriad 17 Rhagfyr 2019

A chofiwch, mae cyfle o hyd i chi leisio eich barn ar wella gwasanaethau’r cyngor drwy ymuno â’n Panel Dinasyddion.

Chwilio A i Y