Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Ymgynghoriad ar safleoedd Sipsiwn, Teithwyr a phobl sioe

Efallai y byddwch chi neu rywun rydych yn ei adnabod angen llain neu iard ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Yn unol â Deddf Tai (Cymru) 2014, mae angen i ni gael gwybod faint o leiniau neu safleoedd sydd eu hangen, ac wedyn eu darparu. O ganlyniad, mae Gwasanaethau Ymchwil Barn yn siarad ar ein rhan â theuluoedd Sipsiwn, Teithwyr a Phobl Sioe lleol. Fe'u gwahoddir i gymryd rhan mewn arolwg i sicrhau ein bod yn gwybod eu hanghenion o ran llety.

Ymateb i’r ymgynghoriad

Cysylltwch â’r Gwasanaethau Ymchwil Barn drwy'r manylion isod. Bydd angen i chi roi:

  • eich enw llawn
  • yr ardal lle rydych chi’n byw
  • eich rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost

Wedyn, bydd y Gwasanaethau Ymchwil Barn yn dod atoch chi am sgwrs am eich anghenion ac yn rhannu'r wybodaeth hon â ni.

Cysylltu:

Gwasanaethau Ymchwil Barn

Ffôn: 01792 535319
Cyfnewid testun: 07471 267095

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 18 Mawrth 2020.

Chwilio A i Y