Y Gymraeg
Rydym wedi ymrwymo i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gyflawni busnes gyda’r cyhoedd. Hefyd, rydym yn ymroddedig i helpu i godi ymwybyddiaeth trigolion a chyflogeion o’r iaith a’r diwylliant.
Safonau’r Gymraeg
Mae ein dogfen gydymffurfio a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn 2015 yn nodi'r 171 o safonau y mae angen i ni gydymffurfio â nhw.
Er 30 Mawrth 2016, roedd yn rhaid i ni gydymffurfio â 144 o safonau, a'r 27 sy'n weddill erbyn 30 Medi 2016. Mae'r safonau'n cynnwys pum thema:
- Gwasanaethau
- Gwneud polisïau
- Gweithredoedd
- Hyrwyddo
- Cadw cofnodion
Mae'r ddogfen hon yn nodi sut rydym yn bwriadu cydymffurfio â'r safonau.
Byddwn yn cyhoeddi ein ffurflenni asesu’r Gymraeg ar gyfer ein cyrsiau addysg cyhoeddus bob blwyddyn.
- Ffurflenni asesu'r Gymraeg 2019/20
- Ffurflenni asesu'r Gymraeg 2018/19
- Ffurflenni asesu’r Gymraeg 2017/18
- Ffurflenni asesu’r Gymraeg 2016/17
Adroddiadau blynyddol ar y Gymraeg
Mae ein hadroddiadau blynyddol yn trafod ein gwaith o gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg:
Mae copïau caled o’r adroddiadau hyn hefyd ar gael yn ein Canolfan Gyswllt.
Strategaeth bum mlynedd
Mae ein strategaeth bum mlynedd yn disgrifio sut y byddwn yn bwriadu rhoi hwb i’r Gymraeg a’r diwylliant Cymraeg ymhlith ein trigolion a’n cyflogeion. Darllenwch ein strategaeth ar-lein neu darllenwch gopi caled yn ein Canolfan Gyswllt.
Cwynion am y Gymraeg
Rydym wedi diweddaru ein polisi cwynion corfforaethol i nodi sut rydym yn ymdrin â chwynion am y Gymraeg. Gwelwch ein polisi cwynion llawn yma.
Cyswllt
Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb
Dogfennau
- Strategaeth bum mlynedd - PDF 665Kb
- Dogfen gydymffurfio 2015 - PDF 412Kb
- Dogfen gydymffurfio 2016 - DOCX 70Kb
- Adroddiadau blynyddol ar y Gymraeg 2017 i 2018 - DOCX 122Kb
- Adroddiadau blynyddol ar y Gymraeg 2016-17 - DOCX 122Kb
- Adroddiadau blynyddol ar y Gymraeg 2015-16 - DOCX 64Kb
- Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (Pen-y-bont ar Ogwr) 2017 hyd at 2020 - PDF 811Kb
- Safonaur Gymraeg Adroddiad Blynyddol 2018 to 2019 - DOCX 135Kb