Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein holl wasanaethau, ac i drin ein trigolion, cwsmeriaid, cyflogeion ac ymwelwyr â pharch wrth ddarparu gwasanaethau sy'n ymateb i anghenion unigol y bobl.

 

Mae’r Cyngor yn cynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb i ddeall a fydd newidiadau i bolisïau, gwasanaethau a swyddogaethau, neu a fydd cyflwyno rhai newydd, yn cael effaith ar wahanol sectorau’r gymdeithas mewn gwahanol ffyrdd.

Gall asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb helpu i nodi gwelliannau i wasanaethau, gan ein galluogi i wneud gwell penderfyniadau a nodi sut y gall pobl fanteisio’n llawn ar ein gwasanaethau.

  • Sgrinio cyntaf - Mae sgrinio cyntaf yn ein helpu i wybod a yw cynnig penodol yn debygol o gael effaith andwyol ar unrhyw grŵp o bobl ac a oes angen i ni gymryd camau gweithredu lliniarol neu weithredu asesiad llawn o'r effaith ar gydraddoldeb.

  • Asesiadau Llawn o’r Effaith ar Gydraddoldeb - Mae asesiad llawn o’r effaith ar gydraddoldeb yn broses gyfundrefnol o gasglu a dadansoddi tystiolaeth sy'n sicrhau ein bod yn bodloni ein dyletswydd i hyrwyddo cydraddoldeb yn well.

Rydym yn cyhoeddi ein hasesiadau o effaith ar gydraddoldeb yn adran cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a phwyllgorau ar y wefan.

Mae’r ddeddf yn cynnwys Dyletswydd Cydraddoldeb yn y Sector Cyhoeddus sy’n datgan bod rhaid i ni, fel Cyngor, ystyried yr angen i wneud y canlynol:

  • dileu gwahaniaethu, aflonyddwch, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sy’n cael ei wahardd dan y ddeddf.

  • datblygu cyfle cyfartal rhwng unigolion sydd â nodweddion a ddiogelir ac unigolion sydd heb nodweddion o’r fath, er enghraifft drwy leihau neu gael gwared ar anfanteision, bodloni anghenion unigolion sydd â nodwedd a ddiogelir neu eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau a bywyd cyhoeddus.

  • annog perthnasau da rhwng y rheiny sy’n rhannu nodwedd a ddiogelir a’r rheiny nad ydynt, er enghraifft drwy fynd i’r afael â rhagfarn a hyrwyddo dealltwriaeth

Rydym wedi ymrwymo i helpu i sicrhau bod modd i unigolion, waeth pa fath o nodwedd a ddiogelir sydd ganddynt, gymryd rhan gyflawn yn ein cymuned fel dinasyddion cyfartal. Y naw nodwedd a ddiogelir yw:

  1. Oedran
  2. Anabledd
  3. Ailbennu rhywedd
  4. Priodas a phartneriaeth sifil
  5. Beichiogrwydd a mamolaeth
  6. Hil
  7. Crefydd a chred
  8. Rhyw
  9. Cyfeiriadedd rhywiol

Cyswllt

Cydraddoldebau
Ffôn: 01656 643664
Cyfeiriad: Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB.

Chwilio A i Y