Y cynllun lles lleol ac asesu
Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr a Chwm Taf wedi dod ynghyd i sefydlu ‘Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Morgannwg’.
Mae’r Bwrdd newydd wedi llunio a chreu Cynllun Llesiant ar y cyd sy’n amlinellu sut y gellir gwella llesiant yn ardal Cwm Taf Morgannwg.
Cafodd y Cynllun ei ysgrifennu gan ddefnyddio canfyddiadau’r Asesiad Llesiant, a bu inni ymgysylltu â rhanddeiliaid a chymunedau wrth inni gadarnhau ein hamcanion llesiant. Mae’r Cynllun Llesiant hefyd yn amlinellu sut y bydd saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cael eu gwireddu. Y nodau hynny yw:
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru iachach
- Cymru sy’n fwy cyfartal
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
- Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang