Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Adolygiadau dynladdiad domestig

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnal Adolygiad Dynladdiad Domestig (ADD) pan mae rhywun 16 oed neu hŷn yn marw oherwydd cam-drin domestig. Gall hyn fod yn drais, cam-drin neu esgeulustod gan berthynas, aelod o’r teulu neu rywun maent wedi bod mewn perthynas agos â hwy.

Bydd yr ADD yn edrych ar yr amgylchiadau a arweiniodd at y farwolaeth. Bydd hyn yn helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall beth ddigwyddodd a beth sydd angen newid er mwyn lleihau’r risg y bydd yn digwydd eto.

Bydd yr ADD yn cael ei gynnal gan banel adolygu o aelodau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae’n cael ei arwain gan gadeirydd annibynnol.

Bydd y panel yn edrych ar gyswllt pob asiantaeth â’r achos ac efallai y bydd yn siarad â theulu, ffrindiau a chydweithwyr y dioddefwr. Wedyn bydd yn gwneud argymhellion i wella’r ymateb i drais domestig yn y dyfodol.

Ni fydd adroddiad yr ADD yn dweud sut bu farw’r person, na phwy sydd ar fai. Mae’r adolygiad yn cael ei gynnal yn ychwanegol at ymholiadau eraill.

Ewch i wefan y llywodraeth am fwy o wybodaeth am adolygiadau dynladdiad domestig a chanllawiau statudol y Swyddfa Gartref.

Chwilio A i Y