Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Traethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont

Mae saith traeth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont. Mae pob un ohonynt yn ardal Porthcawl ar arfordir y de orllewin, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dywodlyd, yn ogystal ag yn hawdd eu cyrraedd. Mae Porthcawl yn lle gwyliau adnabyddus a phrysur, a chanddo nifer o gyfleusterau glan y môr. Mae’r rhain yn cynnwys ffair, arcêd, a digon o lefydd i aros.

Traethau i ymweld â nhw

Y traeth hwn yw’r un mwyaf dwyreiniol, a dim ond deg munud o bellter cerdded o bentref hardd Newton. Mae’n dywodlyd, yn greigiog, ac yn boblogaidd gyda syrffwyr gwynt, sgiwyr jet yn ogystal â defnyddwyr cychod pŵer.

Nodweddion

Mae milltiroedd o dywod yno, er ei fod yn greigiog iawn mewn rhannau. Mae modd cerdded drwy Dwyni Newton Burrows i geg Afon Ogwr. Mae’r traeth ei hun yn agos at dwyni Merthyr Mawr, yr ail fwyaf yn Ewrop. Mae llawer o bobl chwaraeon yng Nghymru yn hyfforddi ar un twyn tywod yn arbennig, a gaiff ei adnabod yn lleol fel ‘The Big Dipper’, ac mae ymwelwyr yn aml yn sledio arno.

Achubwyr bywyd ar ddyletswydd

Mae achubwyr bywyd gwirfoddol ar ddyletswydd ar adegau penodol. Fodd bynnag os nad oes baner, nid oes patrôl.

Cyfleusterau a siopau

Mae llithrfa, y mae’r clwb cychod lleol yn ei defnyddio. Fel arall nid oes cyfleusterau na siopau, ond mae Parc Gwyliau Bae Trecco ychydig o funudau o bellter cerdded ac yn cynnig amrywiaeth o luniaeth ac adloniant.

Addas i blant

Nid oes cyfleusterau i blant ar y traeth. Fodd bynnag, mae gan Barc Gwyliau Bae Trecco arcêd, golff bach, pwll nofio, parc Jungle Jim’s, ac amrywiaeth o beiriannau chwarae i ddiddanu’r plant.

Toiledau

Mae’r toiledau agosaf ym Mharc Gwyliau Bae Trecco.

Parcio

Mae maes parcio talu ac arddangos.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae’r traeth ddeg munud o bellter cerdded o bentref Newton, y gellir ei gyrraedd yn hawdd gyda gwasanaethau bws i Borthcawl neu yn ôl. Mae First Bus yn rhedeg gwasanaethau uniongyrchol amrywiol o Ben-y-bont, Caerdydd (X2) ac Abertawe. I gyrraedd y traeth, dewch oddi ar y bws ym modurdy Globe Garage, ac ewch i wefan Traveline Cymru i gynllunio taith.

Anifeiliaid

Caniateir cŵn ar y traeth, ond casglwch wastraff eich ci a chael gwared arno.

Lleoliad

Heol y Traeth,
Porthcawl,
Pen-y-bont ar Ogwr.
CF36 5NE.

Mae hwn yn draeth tawel, sy’n boblogaidd gyda phobl leol a syrffwyr.

Nodweddion gorau

Mae gan y traeth dywod euraidd gyda chreigiau a cherrig mân ar y brig. Mae’r traethlin ei hun yn greigiog, ac mae cerrig brig pinc i’w gweld, gyda llawer o gerrig mân yr un lliw hefyd. Ar bwynt y Sger gerllaw, mae heneb i griw bad achub y Mwmbwls a’r S.S. Santampa y gellir ei gweld pan mae’r llanw’n isel.

Achubwyr bywyd ar ddyletswydd

Mae achubwyr bywyd ar ddyletswydd o ddechrau mis Gorffennaf tan ddiwedd mis Awst. Os nad oes baner, nid oes achubwr bywyd.

Cyfleusterau a siopau

Dim.

Addas i blant

Does dim cyfleusterau i blant.

Toiledau

Mae’r toiledau agosaf 30 munud o bellter cerdded ym Mae Rest.

Parcio

Nid oes meysydd parcio cyfagos gan mai dim ond ar droed y gellir cyrraedd y traeth. Mae’r maes parcio agosaf ym Mae Rest.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae First Bus yn rhedeg gwasanaethau i Borthcawl. Mae gwasaaethau uniongyrchol amrywiol yn mynd o Ben-y-bont ar Ogwr, Caerdydd ac Abertawe. Gan fod Bae Rest ychydig filltiroedd o orsaf fysiau canol y dref, bydd angen i chi gerdded neu ddefnyddio’r trên ffordd. Mae’r trên yn mynd o Bromenâd Porthcawl ac yn stopio mewn amrywiol fannau hyd at Fae Rest. Ewch i wefan Traveline Cymru i gynllunio taith.

Anifeiliaid

Caniateir cŵn ar y traeth, ond casglwch wastraff eich ci a chael gwared arno.

Lleoliad

Mae’r traeth 15 munud o bellter cerdded o Fae Rest yn ymyl Clwb Golff Royal Porthcawl.
Porthcawl.
Pen-y-bont ar Ogwr.
CF36 3PJ.

Mae hwn yn draeth Baner Las poblogaidd gyda llawer o dywod euraidd ac ychydig iawn o greigiau. Mae’n boblogaidd iawn ar gyfer chwaraeon dŵr, syrffio, canŵio, syrffio barcud/gwynt a chorff fyrddio. Peidiwch â defnyddio sgiwyr jet.

Nodweddion

Mae milltiroedd o dywod euraidd, mân yma. Mae’n dda iawn ar gyfer cerdded, oherwydd gallwch fynd ar hyd yr arfordir i Pink Bay a thu hwnt. Ar gyngor Florence Nightingale, adeiladwyd Cartref Gwella Rest yn 1880, sy’n edrych dros Fae Rest.

Achubwyr bywyd ar ddyletswydd

Mae achubwyr bywyd ar ddyletswydd o fis Mai i fis Medi. Fodd bynnag os nad oes baner, nid oes achubwr bywyd.

Cyfleusterau a siopau

Mae caffi bar, toiledau, cymorth cyntaf a chanolfan i blant ar goll. Mae Academi Syrffio yno hefyd sy’n cynnig gwersi syrffio yn ystod y tymor prysur.

Addas i blant

Mae canolfan i blant ar goll.

Toiledau

Mae’r toiledau ychydig funudau o bellter cerdded, drws nesaf i’r caffi bar.

Parcio

Mae un maes parcio talu ac arddangos wrth ymyl y traeth, a nifer o fannau parcio ar gyfer gyrwyr anabl yn edrych drosto.

Trafnidiaeth gyhoeddus:

Mae First Bus yn rhedeg gwasanaethau i Borthcawl. Mae gwasanaethau uniongyrchol amrywiol yn mynd o Ben-y-bont ar Ogwr, Caerdydd ac Abertawe. Mae Bae Rest ychydig filltiroedd o orsaf fysiau canol y dref, felly bydd angen i chi gerdded neu ymuno â’r trên ffordd. Mae’r trên yn dechrau o bromenâd Porthcawl ac yn stopio mewn amrywiol fannau ar hyd y daith. Ewch i wefan Traveline Cymru i gynllunio taith.

Anifeiliaid

Ni chaniateir cŵn ar y traeth o fis Mai i fis Medi.

Lleoliad

Porthcawl.
Pen-y-bont ar Ogwr.
CF36 3QB.

Mae hwn yn draeth poblogaidd gyda llawer o dywod euraidd ac ychydig iawn o greigiau.

Nodweddion

Mae tywod y traeth hwn yn fân ac yn euraidd.

Achubwyr bywyd ar ddyletswydd

Mae achubwyr bywyd ar ddyletswydd o fis Mai i fis Medi. Fodd bynnag os nad oes baner, nid oes achubwr bywyd.

Cyfleusterau a siopau

Mae’r traeth o flaen ffair fawr ac ardal glan y môr gyda siopau, caffis, bwytai bwyd cyflym a bariau. Mae cadeiriau plygu ar gael. Mae marchnad agored yn ystod y tymor prysur hefyd. Mae’n agos iawn i harbwr Porthcawl, lle mae cychod stêm pleser y Waverley a’r Balmoral yn dechrau am Fôr Hafren ac arfordir Dyfnaint.

Addas i blant

Mae canolfan adloniant gyda lle bowlio, bwyty, ac arcedau. Mae’n bosib cael taith ar gefn mul ar y traeth hefyd, ac weithiau mae yno drampolinau a chestyll bownsio.

Toiledau

Mae toiledau yn y ganolfan adloniant gydag offer newid babanod, ac mae toiledau yn y bar Hi Tide hefyd.

Parcio

Mae dau faes parcio. Mae un wrth ymyl y traeth ac mae’r llall ychydig funudau o bellter cerdded.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae First Bus yn rhedeg gwasanaeth i Borthcawl. Mae gwasanaethau uniongyrchol amrywiol yn mynd o Ben-y-bont, Caerdydd ac Abertawe. Ewch i wefan Traveline Cymru i gynllunio taith.

Anifeiliaid

Ni chaniateir cŵn ar y traeth rhwng mis Mai a mis Medi.

Lleoliad

Mackworth Road,
Porthcawl,
Pen-y-bont ar Ogwr.
CF36 5BT.

Gosodwyd tarmac dros ran o’r traeth hwn yn yr 1980au er mwyn atgyweirio amddiffynfeydd y môr. Ni chaniateir nofio gan fod y traeth yn beryglus iawn ar adegau penodol o’r llanw. Mae’r creigiau’n finiog iawn mewn rhai mannau.

Nodweddion

Mae’n lle gwych i chwilio am byllau creigiau.

Achubwyr bywyd ar ddyletswydd

Nid oes achubwyr bywyd ar ddyletswydd ar y traeth gan na chaniateir nofio yn y môr.

Cyfleusterau a siopau

Mae’r traeth hwn yn agos at holl gyfleusterau canol y dref megis caffis, toiledau, siopau, bariau a Phafiliwn y Grand. Mae caffi bar ac adloniant ar gael yn y Pafiliwn. Mae taith gerdded fer ar hyd y promenâd yn eich arwain chi at yr harbwr a gorsaf gychod yr RNLI.

Addas i blant

Nid oes cyfleusterau ar y traeth. Fodd bynnag, mae traeth Coney a’i arcêd ddeg munud o bellter cerdded.

Toiledau

Mae’r toiledau cyhoeddus agosaf ym Mhafiliwn y Grand. Mae toiledau hefyd ychydig funudau o bellter cerdded yn Stryd John yng nghanol y dref.

Parcio

Mae llefydd parcio cyfyngedig o flaen y traeth, a dau faes parcio talu ac arddangos ym Mhorthcawl.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae First Bus yn rhedeg gwasanaeth i Borthcawl. Mae gwasanaethau uniongyrchol amrywiol yn mynd o Ben-y-bont, Caerdydd ac Abertawe. Ewch i wefan Traveline Cymru i gynllunio taith.

Anifeiliaid

Ni chaniateir cŵn ar y traeth rhwng mis Mai a mis Medi.

Lleoliad

Heol y Traeth,
Porthcawl.
CF36 5NE.

Y traeth hwn yw’r un mwyaf gorllewinol yn y fwrdeistref, a dim ond wrth gerdded o Fae Rest neu Warchodfa Natur Genedlaethol Cynffig y gellir ei gyrraedd.

Nodweddion

Tywodlyd a gwastad yn bennaf. Pobl leol sy’n defnyddio’r traeth i raddau helaeth, sy’n golygu mai hwn yw un o draethau tawelaf Porthcawl. Mae’n dda iawn ar gyfer cerdded. Pan fydd y llanw’n isel, mae modd gweld plac er cof am yr holl fywydau a gollwyd ar fwrdd yr S.S. Santampa a bad achub y Mwmbwls. Pan fydd y llanw’n isel iawn, gellir gweld y llongddrylliad o hyd.

Achubwyr bywyd ar ddyletswydd

Mae achubwyr bywyd gwirfoddol ar ddyletswydd ar adegau penodol, ond os nad oes baner, nid oes patrôl.

Cyfleusterau a siopau

Dim.

Addas i blant

Does dim cyfleusterau i blant.

Toiledau

Mae’r toiledau agosaf 40 munud o bellter cerdded ym Mae Rest neu yng ngwarchodfa natur Cynffig.

Parcio

Nid oes meysydd parcio agos gan mai dim ond ar droed y gellir cyrraedd y traeth. Mae’r maes parcio agosaf ym Mae Rest neu yng Ngwarchodfa Natur Cynffig.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Nid yw’n hawdd cyrraedd y traeth ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae First Bus yn rhedeg gwasanaeth i Borthcawl. Mae gwasanaethau uniongyrchol amrywiol yn mynd o Ben-y-bont, Caerdydd ac Abertawe. Ewch i wefan Traveline Cymru i gynllunio taith.

Anifeiliaid

Caniateir cŵn ar y traeth, ond casglwch wastraff eich ci a chael gwared arno.

Lleoliad

Gellir ei gyrraedd drwy gerdded am 20 munud o Fae Rest ar hyd Clwb Golff Royal Porthcawl.
Porthcawl.
Pen-y-bont ar Ogwr.
CF36 3RT.

Mae’r traeth hwn wrth ymyl Sandy Bay (Traeth Coney) ac yn bum munud o bellter cerdded o Barc Gwyliau Bae Trecco, sydd â chyfleusterau adloniant ardderchog.

Nodweddion

Mae hwn yn draeth Baner Las tywodlyd, mawr gydag ansawdd dŵr ardderchog. Er ei fod yn agos at y Parc Gwyliau, mae’n gymharol dawel.

Achubwyd bywyd ar ddyletswydd

Mae achubwyr bywyd ar ddyletswydd o fis Mai i fis Medi, ond cofiwch os nad oes baner, nid oes patrôl.

Cyfleusterau a siopau

Nid oes cyfleusterau na siopau. Fodd bynnag, mae Parc Gwyliau Bae Trecco ychydig funudau o bellter cerdded ac yn cynnig amrywiaeth o luniaeth.

Addas i blant

Nid oes cyfleusterau i blant ar y traeth, ond mae Parc Gwyliau Bae Trecco gerllaw. Mae ganddo arcêd, golff bach, pwll nofio Splashland, parc Jungle Jim’s, ac amrywiol beiriannau chwarae eraill.

Toiledau

Mae’r toiledau agosaf ym Mharc Gwyliau Bae Trecco.

Parcio

Nid oes maes parcio dynodedig, ond mae maes parcio bach y tu ôl i gefn y parc gwyliau, yn agos at y traeth.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae’r traeth ddeg munud o bellter cerdded o bentref Newton, y gellir ei gyrraedd yn hawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae First Bus yn rhedeg gwasanaethau i Borthcawl ac yn ôl, a dylai teithwyr ddod oddi ar y bws ym modurdy Globe Garage. Mae gwasanaethau uniongyrchol amrywiol yn rhedeg o Ben-y-bont ar Ogwr, Caerdydd (X2) ac Abertawe. Ewch i wefan Traveline Cymru i gynllunio taith.

Anifeiliaid

Ni chaniateir cŵn ar y traeth rhwng mis Mai a mis Medi.

Lleoliad

Gellir cyrraedd Bae Trecco drwy Barc Gwyliau Bae Trecco neu drwy gerdded o draeth Newton, sydd ychydig funudau oddi yno ar droed.
Porthcawl.
Pen-y-bont ar Ogwr.
CF36 5DB.

Ansawdd dŵr

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn asesu ansawdd dŵr mewn safleoedd penodol yng Nghymru. Rhwng mis Mai a mis Medi, mae profion wythnosol yn mesur ansawdd dŵr ar sawl safle ac mae rhagolygon dyddiol o’r risg o lygredd. Mae graddau blynyddol yn dosbarthu pob safle fel rhagorol, da, digonol neu wael yn seiliedig ar ddarlleniadau dros gyfnod o bedair blynedd.

Chwilio A i Y