Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Gwarchodfa natur leol Coed Tremaen

Mae Coed Tremaen yn goetir llydanddail cymysg tir isel yng nghanol Bracla. Mae’n hafan ddeiliog, hygyrch rhag bywyd y dref ac mae’r llwybrau troellog drwy’r coetir yn llecyn perffaith i blant ei archwilio. Rydym yn rheoli’r coetir fel bod y gymuned leol yn gallu bod yn agos at natur.

Yn ardal o goetir hynafol, lled-naturiol, mae Coed Tremaen wedi’i rhestru yn ‘Rhestr Dros Dro Morgannwg o Goetiroedd Hynafol’ (Y Cyngor Cadwraeth Natur, Rhagfyr 1986).

Mae llwybrau drwy’r coetir y gellir eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn. Mae arwyddbyst ar y llwybrau gyda ‘saethau robin goch’ a chyfres o banelau gwybodaeth i’ch helpu chi i adnabod y rhywogaethau o goed, blodau a bywyd gwyllt.

I wella mynediad, rydyn ni wedi gosod llwybr troed newydd yn ei le sy’n dilyn yr hawl tramwy cyhoeddus, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru. Yn 2013, cafodd llwybr mynediad graean newydd gyda lloriau pren ei osod yn ei le.

Rhywogaethau o blanhigion a ffyngau

  • ynn
  • drain duon
  • clychau’r gog
  • llwyni mwyar duon
  • pidyn y gog
  • bresych-y-cŵn
  • llwyfenni
  • llysiau Steffan
  • rhedyn
  • masarn bach
  • eurinllys blewog
  • tafod yr hydd
  • drain gwynion
  • cyll
  • eiddew
  • peli du
  • erwain
  • eglyn cyferbynddail
  • briallu
  • blodau anghyfagos
  • derw digoes
  • sycamorwydd
  • blodau’r gwynt
  • marddanadl melyn

Mae sawl llwybr troed anffurfiol yn rhedeg drwy floc gogleddol y coed. Yno, fe welwch chi ffosydd gyda phlanhigion y gwlybdir fel erwain, eglyn cyferbynddail a blodau anghyfagos. Cadwch lygad am o leiaf ddwy dderwen hynafol i’r dwyrain o’r ardal hon.

Mae’r bloc deheuol wedi’i ffensio yn rhannol ac nid yw’n hygyrch i’r cyhoedd. Mae’n cynnwys cyfran lawer uwch o lwyni mwyar duon. Mae darnau lleol o laswelltir tal wedi’i led-wella ac ychydig o lwyni mewn sawl ardal ar hyd ymylon y coetir.

Rhywogaethau o anifeiliaid:

  • titw tomos las
  • siff saff
  • broga
  • madfall
  • telor y cnau
  • ystlum lleiaf
  • robin goch
  • llygoden y coed

Lleoliad:

Dilynwch y llwybr troed i’r dde o Oak Tree Court wrth i chi nesau at Ysgol Uwchradd Gatholig Archesgob McGrath.

Mae maes parcio cyhoeddus ar gael yng Nghanolfan Siopa Triongl Bracla.

Hanes lleol

Mae’r hen fapiau Arolwg Ordnans (OS) yn dangos bod y coetir presennol wedi bod yn rhannol goediog o leiaf ers 1799. Erbyn 1875, roedd y coetir yn cael ei farcio ar fapiau OS fel ‘Tre-Maen Wood’. Mae’r map hwn hefyd yn dangos trac drwy gornel dde orllewinol y coed sy’n cysylltu i drac arall ar ymyl orllewinol bellaf y coetir presennol. I’r de, mae’r trac yma’n arwain i hen chwarel ac odyn galch yn Nhremaen isaf. Mae’n bosib bod y trac yn cael ei ddefnyddio i fynd â choed o’r goedwig i gael eu defnyddio fel tanwydd ar gyfer yr odyn galch.

Hefyd yn rhan ddeheuol Coed Tremaen, ger un o’r pontydd, fe welwch chi weddillion hen wal garreg, a beth sy’n ymddangos fel hen lifddor. Mae’n debygol bod o leiaf rai o’r hen gloddiau terfyn yn y coed wedi cael eu defnyddio unwaith i gau anifeiliaid pori i mewn, fel moch a geifr. Yn wir, efallai y gwelwch chi sawl hen glawdd yn y coed. Efallai bod y rhain wedi bod yn rhan o ffin y coetir hynafol.

Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am hanes Coed Tremaen, cysylltwch â ni.

Cyswllt

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cerflun ceidwad natur

Ceidwad y Coed sydd yn y warchodfa.

Gwirfoddoli neu drefnu trip ysgol yma

Os ydych chi eisiau cefnogi’r safle yma, trefnu ymweliad addysgol, neu wirfoddoli yng nghefn gwlad yn gyffredinol, cysylltwch â ni.

Cyswllt

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Chwilio A i Y