Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Comin Locks

Yn 30 hectar o dir garw, cymharol wastad, mae Comin Locks yn dechrau lle oedd promenâd gwreiddiol Porthcawl yn dod i ben ac mae’n ymestyn i draeth Rest Bay. Mae’r warchodfa amrywiol hon yn gartref i amrywiaeth enfawr o adar, glöynnod byw a blodau gwyllt. Rydym yn rheoli’r warchodfa fel bod y gymuned leol yn gallu bod yn agos at fyd natur.

Mae Comin Locks yn dechrau ym mhen draw promenâd Porthcawl ac yn parhau drwodd i Rest Bay yn y gorllewin. Mae Comin Locks yn lle perffaith i gerdded gyda golygfeydd panoramig o Rest Bay a Môr Hafren. Ar ddiwrnod clir, mae arfordir Dyfnaint a Bae Abertawe i’w gweld yn y pellter.

Nodweddion naturiol

Mae palmant calchfaen y safle wedi’i wasgaru dros ddwy hectar. Dyma nodwedd anarferol yng ngwarchodfeydd natur Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’n gynefin ar gyfer rhywogaethau nad ydych yn debygol o’u gweld mewn llefydd eraill. Mae’r rhain yn cynnwys bwrned, effros a mandon fach. Mae’r nodwedd galchfaen bwysig yma’n golygu bod Comin Locks yn Safle Daearegol Rhanbarthol Bwysig (RIGS) yn ogystal â Gwarchodfa Natur Leol.

Gallwch ddod o hyd i flodyn glas hardd seren y gwanwyn y tu hwnt i’r ardal galchfaen a’r llwybrau. Hefyd rydych chi’n debygol iawn o ddod o hyd i glochdar y cerrig sy’n byw yma. Mae’r adar bach yma’n ysgwyd eu hadenydd pan maent yn clwydo ac yn aml maent i’w gweld ar lwyni isel. Fel mae’r enw’n awgrymu, mae eu cri fain swnllyd iawn yn swnio fel dwy garreg yn taro yn erbyn ei gilydd.

Rhywogaethau o blanhigion:

  • pys-y-ceirw
  • effros
  • grug
  • corn-carw’r môr
  • bwrned
  • seren y gwanwyn
  • mandon fach

Rhywogaethau o anifeiliaid:

  • titw tomos las
  • llwynog
  • llamhidydd yr harbwr
  • cudyll
  • gwylanod cefnddu lleiaf
  • robin goch
  • corhedydd y graig
  • ehedydd
  • clochdar y cerrig

Os gwelwch chi y rhain neu rywogaethau eraill yma, tynnwch lun a’i ddangos i ni ar gyfryngau cymdeithasol.

Llwybr troed

Mae sawl llwybr troed yn croesi’r warchodfa. Hefyd, mae llwybrau cerdded a beicio modern yn rhedeg ochr yn ochr â’r comin, ac yn arwain i Rest Bay. Mae ardaloedd mawr o balmant calchfaen, ond gan ei fod yn anawstad, gall fod yn llecyn anodd i gadeiriau olwyn a gwthio. Yn gyffredinol, gall llwybrau mewn ardaloedd naturiol fod yn fwdlyd ac yn anwastad mewn mannau.

Lleoliad:

Comin Locks
Cyfeiriad: Mallard Way, Porthcawl, CF36 3HU.

Sicrheir mynediad o ben y promenâd yn nhref Porthcawl neu o Rest Bay i’r gorllewin o’r dref. Mae meysydd parcio cyhoeddus yng nghanol tref Porthcawl ac mae llefydd parcio ar gael yn ardal Rest Bay.

Hanes lleol

Mae gan Gomin Locks hanes maith o bori gan ddefaid a gwartheg. Hefyd mae wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant milwrol a chyn y rhyfel byd cyntaf, roedd yn gwrs golff. Mae’r warchodfa yn dechrau ym mhromenâd Porthcawl, a adeiladwyd yn 1887 i ddathlu blwyddyn jiwbilî y Frenhines Victoria.

 

Chwilio A i Y