Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cerfluniau ac anturiaethau ceidwaid natur

Os byddwch chi’n ymweld â’n gofod gwyrdd ni, efallai y gwelwch chi rai cerfluniau yno. Cerfluniau derw ‘Ceidwaid Natur’ yw’r rhain. Maent yn ychwanegu diddordeb at ein llecynnau harddwch a gyda’r cerddi sy’n cyd-fynd, maent yn dal dychymyg yr ymwelwyr iau drwy ryngblethu mytholeg yn y safleoedd. Y nod yw tanio cyswllt emosiynol â’n gofod gwyrdd ni, ac felly annog pobl i ymweld, yn ogystal â gofalu mwy amdanynt. Mae pump o’r cerfluniau ym Mharc Gwledig Bryngarw ac mae 10 mewn mannau eraill ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Anturiaethau rhyngweithiol ym Mharc Gwledig Bryngarw

Ym Mharc Bryngarw, mae’r cerfluniau’n rhyngweithiol. Mae realiti estynedig, cerddoriaeth a straeon yn dod â’r cerfluniau yn fyw, sy’n ychwanegu at ddiwrnod hwyliog i’r teulu. Ewch i wefan Parc Gwledig Bryngarw am fwy o wybodaeth.

Ceidwad y Traeth

Trawsgrifiad o fideo 'Ceidwad y Traeth'.

Bae Trecco,

Porthcawl.

“Fi yw’r traeth, rwyf wedi cadw ei stori yn wir,
oherwydd fi yw’r Ceidwad ond rwyf wedi cysgu am amser hir.

yma mae ôl troed yn y tywod yn glir
yma mae pant wedi’i gloddio yn y tir
yma mae pawb yn un
fi yw’r traeth

ffotograff ydw i, cipolwg ar amser mewn llun
barddoniaeth ar bapur heb odl, dim un,
fi yw dy blentyndod, yn droednoeth yn y baw
llosg haul yn yr haf, gwlyb at fy nghroen yn y glaw.

cae chwarae ydw i, yng nghrud y tir,
cefnlen o fôr agored, tywod yn garped hir,
teyrnas ydw i yn gaer i godi cestyll glân
sy’n herio’r tonnau a’u byddinoedd o waddod mân.

fi yw’r oediad lle mae’r tonnau’n newid llwybr,
cartref slefrod môr, gwymon codog ar grwydr,
morlun ydw i a cheffylau gwynion yn chwarae’n rhydd,
y tywod crych sy’n cael ei olchi bob un dydd.

cist o gregyn, cerrig a thrysorau hudol
tirwedd ddirgel o gartrefi symudol
poced fechan yn gyforiog o greigiau,
rholiwch eich trowsus i fyny a thynnu eich sanau.

fi yw’r cofrodd rhwng bysedd eich traed ar y lan
gwyntoedd o bell yn chwipio eich dillad i bob man
neges mewn potel, yr un na ddaeth,
ton o eiriau’n galw, fi yw’r traeth.”

Ceidwad y Twyni

Trawsgrifiad o fideo 'Ceidwad y Twyni'.

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig

“Yn y tir hwn, mae stori’n cysgu
breuddwyd yw’r byd yn ddi-oed
y stori hon a geidw’r Ceidwaid hynafol
ac felly mae wedi bod erioed.

fi yw’r twyni, rwyf wedi cadw eu stori yn wir,
oherwydd fi yw’r Ceidwad ond rwyf wedi cysgu am amser hir.

edrychwch o’ch cwmpas nawr, wrth i mi ddeffro,
edrychwch ar fy myd wrth iddo newid o ddydd i ddydd
dyma ben draw’r môr, dechrau’r tir
yma mae popeth yn gysylltiedig
o dro’r llanw
i symudiad y tywod
yma, mae popeth yn un, fi yw’r twyni

cerflun ydw i mewn ton o dywod
creadigaeth natur, yn estron i ddyn
cymylau llawn, cestyll ar glai
tirwedd yn symud, yn newid bob dydd

rydw i’n werddon ar bnawn poeth o haf
tegeirianau prin yn eu blodau’n braf,
môr-lyn ydw i, yn y gaeaf pan ddaw
llaciau euraid yn ddafnau glaw

llecyn yn y canol, rhwng dau fyd
hanner yn dir noeth, hanner yn wyrdd i gyd
fi yw’r croen o dan eich traed yn tyfu
llecyn cudd yn lloches i fadfallod dŵr a phryfed tywod ffynnu

rhith ydw i ar fapiau dynion
label ar femrwn, un o’r cofnodion
tirwedd yn newid siâp ac yn torri’r holl reolau,
breichled o dywod, yn emau o flodau

rydw i’n fwy na fi fy hun, nodau’r gân
symffoni o foresg, telor yn tisian
cerddorfa mewn môr llawn melodi
gwrandewch ar yr alaw, oherwydd fi yw’r twyni.”

Ceidwad y Caeau

Trawsgrifiad o fideo 'Ceidwad y Caeau'.

Caeau Aber.

“Yn y tir hwn, mae stori’n cysgu
breuddwyd yw’r byd yn ddi-oed
y stori hon a geidw’r Ceidwaid hynafol
ac felly mae wedi bod erioed.

fi yw’r caeau, rwyf wedi cadw eu stori yn wir,
oherwydd fi yw’r Ceidwad ond rwyf wedi cysgu am amser hir.

edrychwch o’ch cwmpas nawr, wrth i mi ddeffro,
edrychwch ar fy myd wrth iddo weithio a chwarae
dyma ben draw’r awyr a dechrau’r tir
yma mae popeth yn gysylltiedig
o oerni’r gaeaf i gynhesrwydd eich llaw
yma, mae popeth yn un, fi yw’r caeau
teyrnas ydw i lle mae tyrchod yn turio
yn codi eu pridd i’r awyr, cwys ar y rhos
gymnasteg dan olau, ystlumod yn gwibio
ar ganfas gwag awyr y nos

anialwch braf i grwydrol eneidiau
cwningod mân yn cloddio’u tyllau
i frodyr mewn ffydd, casgliad o lwybrau
ysgyfaint llawn awyr iach, alawon a salmau

fi yw’r ystlyswr yn trin y tir
gwaed, chwys a dagrau yn olion troed clir
plymio a deifio yn ysgafndroed
rhaglen natur, yma’n ddi-oed

drwm yn curo, dirgrynu drwy’r wlad
ji-bincod yn rhincian, a’u siarad gwag
cyngerdd i’r robin goch ei hun
lle i deulu, sy’n perthyn fel un.

corned ydw i, llais y dyffryn
adleisiau o enwau, Tom, Dic a Merfyn
cyw bach mentrus yn barod i hedfan,
fi yw’r Planker, dan fy awyr lydan.”

Ceidwad y Llyn

Trawsgrifiad o fideo 'Ceidwad y Llyn'.

Llyn y Diffeithdir.

“Yn y tir hwn, mae stori’n cysgu
breuddwyd yw’r byd yn ddi-oed
y stori hon a geidw’r Ceidwaid hynafol
ac felly mae wedi bod erioed.

fi yw’r Diffeithdir, rwyf wedi cadw ei stori yn wir,
oherwydd fi yw’r Ceidwad ond rwyf wedi cysgu am amser hir.

Edrychwch o’ch cwmpas nawr, wrth i mi ddeffro,
Yma yng nghanol tai a ffyrdd Porthcawl
mae ynys werdd ac arian yn aros am gael ei darganfod.
Yma, mewn encil tawel, mae rhythmau hynafol i’w clywed o hyd
Ym mywydau’r ystlumod a’r adar a’r pysgod
Wrth iddynt godi a gostwng ar lanwau’r tymhorau ...

fi yw’r Diffeithdir

Fi yw’r ynys o ddŵr a helyg i’w harchwilio
Lle mae’r cwtieir a’u cri a dafnau’r glaw yn adleisio
Fi yw’r tonnau mân yn gylch yn y dyfnderoedd ...
Y llyn yn newid hwyliau; anadl y gwyntoedd

Fi yw’r nyth, croth bren y gwanwyn
Crud hwyaid gwyllt, ieir dŵr ac elyrch gwyn
Fi yw’r garreg, lle cododd ein hynafiaid cu
I anrhydeddu’r dirwedd hon mewn dyddiau a fu

Fi yw cennau’r rhufell, y sgreten a’r merfog
Yn nhywyllwch y dŵr yn freuddwyd serog
Masarn a drain gwynion gyda bysedd o ddail wyf i
Yn cyffwrdd pelydrau’r haul, cripio’r awel yn ffri.

Yma mae natur wyllt yn byw yn ôl ei hewyllys ei hun
Yma mae cerrynt dwfn yn cylchu fesul un
Fi yw’r ffagl, fflam werdd, sain...
Fi yw’r diffeithdir sy’n galw
O galon tref.”

Ceidwad Ogwr

Trawsgrifiad o fideo 'Ceidwad Ogwr'.

Craig y Parcau.

“Yn y tir hwn, mae stori’n cysgu
breuddwyd yw’r byd yn ddi-oed
y stori hon a geidw’r Ceidwaid hynafol
ac felly mae wedi bod erioed.

fi yw’r afon, rwyf wedi cadw ei stori yn wir,
oherwydd fi yw’r Ceidwad ond rwyf wedi cysgu am amser hir.

edrychwch o’ch cwmpas nawr, wrth i mi ddeffro,
edrychwch ar y byd rydw i’n ei gerfio
dyma’r meini’n marcio’r llwybr,
mae popeth yn symud, y dŵr ar grwydr,
yma mae popeth yn gysylltiedig, a fi yn eu mapio
fi yw’r Ogwr ac mae’n rhaid i mi lifo.

roced wyllt yn goleuo’r byd
dibyn rheswm, yn llwyd i gyd
fi yw’r llawr dawnsio yn ddafnau o law
dinas i bilcod mân beth bynnag a ddaw
priffordd fawr yn hollti’r coed
brigau a pherlau dan fy nhroed
gwifren wib yn saethu drwy’r tir,
clychau’r gog yn canu yn glir

papur newydd yn fwrlwm o straeon
mes ar fordaith, canŵs o ddail
tâp papur yn clymu gwreiddiau’r coed
a chodio addewidion am yn ail

lleidr yn llacio aur y gro
diemwntau di-ri yn fy nwylo
gwythïen ddu’n rhedeg yn glir
morwyn ddeinamig yn llifo drwy’r tir

pennod mewn stori wedi’i hadrodd droeon
yn ifanc fel gwlith y wawr, hen fel milenia
fi yw’r jam rhwng bara’r tirlun,
fi yw’r Ogwr, i’m dal rhaid bod yn gyflym!”

Ceidwad y Gorffennol

Trawsgrifiad o fideo 'Ceidwad y Gorffennol'.

Parc Bedford.

“Yn y tir hwn, mae stori’n cysgu
breuddwyd yw’r byd yn ddi-oed
y stori hon a geidw’r Ceidwaid hynafol
ac felly mae wedi bod erioed.

fi yw’r gorffennol, rwyf wedi cadw ei stori yn wir,
oherwydd fi yw’r Ceidwad ond rwyf wedi cysgu am amser hir.

edrychwch o’ch cwmpas nawr, wrth i mi ddeffro,
edrychwch ar fy myd wrth iddo newid
dyma’r siwrneiau i’w rhannu
o gamau cyntaf i draciau cudd
yma mae popeth yn gysylltiedig,
popeth yn un, fi yw’r gorffennol
einion yn gwrthsefyll newid
cegin awyr agored, cartref clyd
syniad sy’n tyfu fesul bricsen,
nyth titw tomos las ar ben y gangen


fi yw’r tŷ gwydr sy’n brysur yn tyfu
hadau aeddfed yn barod i’w hadu
fi yw’r gwanwyn yn gennin Pedr i gyd
robin goch yn ei ddillad Sul yn canu i’r byd


ar ddiwrnod o haf fi yw terfyn y daith
yn llithro i’r hydref, a’i lwydni llaith
fi yw’r tawelwch, yr awel yn sibrwd
peswch y pathew, y coed yn siffrwd


ôl troed wedi rhewi yn y baw
cadwyn llygad y dydd, llythrennau ar goeden gerllaw
adlais yr olwynion ar drac y trên
cam cyntaf ymlaen, fflach o gynffon glên


fi yw’r tocyn i bob un sy’n breuddwydio
siwrnai anturus i bawb sydd am fentro
fi yw’r oes sydd wedi teithio’n ddireol
cofiwch fy ngwarchod - fi yw’r gorffennol.”

Ceidwad y Pwll

Trawsgrifiad o fideo 'Ceidwad y Pwll'.

Gwarchodfa Natur Leol Frog Pond Wood

“Yn y tir hwn, mae stori’n cysgu
breuddwyd yw’r byd yn ddi-oed
y stori hon a geidw’r Ceidwaid hynafol
ac felly mae wedi bod erioed.

fi yw’r Pwll hwn, rwyf wedi cadw ei stori yn wir,
oherwydd fi yw’r Ceidwad ond rwyf wedi cysgu am amser hir.

edrychwch o’ch cwmpas nawr, wrth i mi ddeffro,
yma, yng nghysgod ffatrïoedd a ffensys mae byd cudd yn aros...
yma, mae hud...yma mae popeth yn gysylltiedig;
o’r dŵr sy’n codi drwy wreiddiau’r helyg
i gri glas y dorlan yn clwydo ar gangen
yma, mae popeth yn un...

fi yw’r Pwll hwn, diarffordd a di-stŵr
llaw y tir yn gwpan i ddal y dŵr
a fi yw’r bywyd yn y crud yn cuddio
yn llifo a thyfu a suddo a nofio

fi yw’r arwyneb arian yn bigau gwyrdd
o’r dyfnderoedd tywyll hyrddia gellesg fyrdd
fi yw’r llam yng nghoesau’r broga ysgafndroed
gaeafgwsg y fadfall ddŵr yn nghysgod y boncyff coed

fi yw’r gobaith a’r bywyd i greaduriaid sychedig
fi yw’r cymylau heb eu geni, storm law ddeinamig
perl y coetir yn gadarn warcheidwad
a’r nefoedd yn glir yn fy adlewyrchiad...

yma mae cân y Tir yn cael ei chanu
dreigiau’n hedfan, llwynogod yn carlamu...
fi yw’r lle hwn; pwll, broga, awyr a choed
yn ddrych i bopeth a welsoch erioed.”

Ceidwad y Gân

Trawsgrifiad o fideo 'Ceidwad y Gân'.

Parc Calon Lan.

“Yn y tir hwn, mae stori’n cysgu
breuddwyd yw’r byd yn ddi-oed
y stori hon a geidw’r Ceidwaid hynafol
ac felly mae wedi bod erioed.

fi yw’r gân, rwyf wedi cadw ei stori yn wir,
oherwydd fi yw’r Ceidwad ond rwyf wedi cysgu am amser hir.

edrychwch o’ch cwmpas nawr, wrth i mi ddeffro,
gwrandewch ar fy myd a beth sydd ganddo i’w ddweud
yma mae iaith yn aros i gael ei chlywed
yma, mae popeth yn gysylltiedig
o snwffian ci i chwiban aderyn
yma, mae popeth yn un, fi yw’r gân

fi yw’r alaw sy’n canu’n eich pen fel ffair
mynd â’r ci am dro heb yngan gair
esgidiau budron yn llawn mwd o’r ardd
dyfodiad y gwanwyn mewn cennin Pedr hardd

fi yw trydar y gwenoliaid a gadwodd eu gair
a dychwelyd i gyhoeddi ein hyfory aur
fi yw’r gwynt sy’n dawnsio’n wyllt drwy’r coed
suo’r gwenyn brwd sy’n cadw oed

fi yw crensian y dail ar fore hydref oer
dyfodiad y gaeaf yn yr awel dan y lloer
fi yw llonyddwch yr eira o’n cwmpas i gyd
yn cannu pob lliw a throi’r byd yn fud

fi yw’r berl yng nghragen eich calon lân
yn meithrin serch a ninnau ar wahân
fi yw’r geiriau heb eu hyngan eto
y dyffryn o addewidion, yr atgofion sy’n deffro

fi yw adlais y metel ar y graig fawr
chwiban y stêm, tipian y cloc mawr
fi yw’r croeso, y peth cyfarwydd a glân,
ble rydych chi’n perthyn, fi yw’r gân.”

Ceidwad y Cwm

Trawsgrifiad o fideo 'Ceidwad y Cwm'.

Parc Lles Maesteg

“Yn y tir hwn, mae stori’n cysgu
breuddwyd yw’r byd yn ddi-oed
y stori hon a geidw’r Ceidwaid hynafol
ac felly mae wedi bod erioed.

fi yw’r cwm, rwyf wedi cadw ei stori yn wir,
oherwydd fi yw’r Ceidwad ond rwyf wedi cysgu am amser hir.

edrychwch o’ch cwmpas nawr, wrth i mi ddeffro,
edrychwch ar fy myd wrth iddo fynd heibio
yma mae presennol, anrheg o’r gorffennol
gan y rhai a fu farw a’r rhai fydd yn priodi
yma, mae popeth yn gysylltiedig, yma mae popeth yn un,
does dim ffiniau i’n gwahanu, fi yw’r cwm

fi yw’r ceunant gwag yng nghrud y ddaear
bryniau yn ben, gwyrddni yn draed
tirwedd gyforiog o fywyd,
ffenestri’n wincian, tystion mud.

fi yw’r marwor yn y tân,
gem emrallt, cadwyn o lechen lân,
lliain mân yn dyllau cwningod afradlon
llecyn glanio i rocedi estron

fi yw’r disgo i gacwn a gwenyn
peli gliter o aeron mewn coed ar linyn
caffi i wenoliaid sy’n llyncu pob pryfyn
pasteiod mwd plant a blodau menyn

trac rasio cyflym i wlithod a malwod
record cyflymder ar dir i ddail ar ddisberod
siop felysion i was y neidr, yng ngwres yr haul
cyfle i eistedd, cerdded a rhedeg am yn ail

fi yw’r atalnod yn stori’r afon
dafnau glaw yn ddiemwntau bodlon,
fi yw’r anrheg - pobl sydd wedi goroesi,
fi yw’r cwm ac fe fyddaf i yn ffynnu.”

Ceidwad y Coed

Trawsgrifiad o fideo 'Ceidwad y Coed'.

Gwarchodfa Natur Leol Coed Tremaen, Bracla.

“Yn y tir hwn, mae stori’n cysgu
breuddwyd yw’r byd yn ddi-oed
y stori hon a geidw’r Ceidwaid hynafol
ac felly mae wedi bod erioed.

fi yw’r coed, rwyf wedi cadw ei stori yn wir,
oherwydd fi yw’r Ceidwad ond rwyf wedi cysgu am amser hir.

edrychwch o’ch cwmpas nawr, wrth i mi ddeffro,
fe welwch chi goetir hynafol o’ch blaen
edrychwch gyda llygaid eich dychymyg
a gweld gwreiddiau dwfn y llecyn hwn,
gwreiddiau sy’n ymestyn yn ôl am ganrifoedd.

Yma fe allwch chi weld coed oedd yn hen cyn i Ben-y-bont ar Ogwr fodoli;
coed sydd wedi dal eu tir tra oedd y byd o’u cwmpas yn symud a siglo,
codi a gostwng.
Yma mae hud;
yma mae popeth yn gysylltiedig,
o’r hadau yn y pridd i gân yr adar ar yr awel
Yma, mae popeth yn un,
fi yw Coed Tremaen

Fi yw’r coetir, yn sefyll yn glir,
Traed yn gadarn ar y tir,
Mae can mil haul wedi machlud i mi
Ond cadw fy addewid a wnes i

Fi yw’r derw hynafol sy’n herio’r elfennau
Fy rhisgl yn galed fel cennau dreigiau
Fi yw’r gwreiddiau sy’n crwydro wedi iddi nosi
Mewn hadau sy’n cysgu...fi yw’r egni.

Fi yw’r drws sy’n agor i hud
Llwyfan oesol i anturiaethau’n fflyd
Mesen wyf i yn llaw plentyn
Fi yw’r Gwyllt yng nghalon oedolyn

Yma mae’r stori sy’n cysgu’n breuddwydio
Ym mhob un deilen mae tân yn disgleirio
Fi yw’r Coetir; yn sefyll yma’n llonydd
Fel erioed, ac felly y bydd.”

Llwyddiant y Prosiect Ceidwaid Natur

Mae’r Ceidwaid Natur wedi tynnu sylw at ofod gwyrdd wedi’i esgeuluso. Maent wedi annog ymweliadau a thanio cysylltiadau emosiynol â’r tirlun. Am adborth positif, edrychwch ar restr sylwadau ymwelwyr Black Box AV.

Tarddiad y Prosiect Ceidwaid Natur

Syniad gwreiddiol ein Tîm Twristiaeth ni a wardeiniaid Parc Gwledig Bryngarw oedd hwn. Gyda chyllid gan Reach o dan y Cynllun Datblygu Gwledig Ewropeaidd, gosodwyd y llwybr gwybodaeth arloesol yn ei le yn 2013, a’i ehangu yn ystod y blynyddoedd canlynol.

Chwilio A i Y