Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trwydded sŵ

 

Cysylltwch â’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir am gyngor anffurfiol cyn cyflwyno hysbysiad neu gais. Dylech gynnwys eich manylion cysylltu ar y ffurflen a nodi eich bod yn ceisio cyngor ynghylch lles anifeiliaid a thrwydded sŵ.

 

Mae angen trwydded awdurdod lleol arnoch i weithredu sŵ yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban. Codir tâl am y drwydded a gellir cyflwyno amodau er mwyn sicrhau bod y sŵ yn cael ei weithredu mewn modd priodol.

Rhaid i’r ymgeisydd hysbysu’r awdurdod lleol yn ysgrifenedig o’i fwriad i wneud cais am drwydded drwy lythyr, neges e-bost neu ffacs, a hynny o leiaf ddau fis cyn cyflwyno’r cais. Rhaid i’r hysbysiad nodi:

  • lleoliad y sŵ
  • y mathau o anifeiliaid a’r nifer fras o bob grŵp a gedwir i’w harddangos ar y safle, yn ogystal â threfniadau o ran gofalu am yr anifeiliaid, eu llesiant a’u cytiau.
  • y niferoedd amcangyfrifedig a’r mathau o staff a fydd yn gweithio yn y sŵ
  • y nifer o ymwelwyr a’r cerbydau a disgwylir yn fras
  • y nifer fras o fynedfeydd a’u lleoliadau arfaethedig
  • sut y bydd mesurau cadwraeth gofynnol yn cael eu gweithredu

Rhaid i ymgeiswyr gyhoeddi hysbysiad o’i fwriad i wneud cais mewn un papur lleol ac un papur cenedlaethol o leiaf ddau fis cyn gwneud cais. Rhaid iddynt hefyd arddangos copi o’r hysbysiad. Rhaid i’r hysbysiad nodi lleoliad y sŵ a nodi y gellir archwilio’r hysbysiad o’r cais i’r awdurdod lleol yn swyddfeydd yr awdurdod lleol.

Wrth ystyried ceisiadau, bydd yr awdurdod lleol yn ystyried unrhyw sylwadau sy’n dod i law gan neu ar ran:

  • yr ymgeisydd
  • Prif Swyddog Heddlu'r ardal berthnasol, neu’r Prif Gwnstabl yn yr Alban
  • yr awdurdod priodol, sef naill ai’r awdurdod gorfodi neu’r awdurdod perthnasol yn yr ardal lle bydd y sŵ yn cael ei leoli
  • corff arweiniol unrhyw sefydliad cenedlaethol sy’n ymwneud â gweithredu sŵ
  • yn Lloegr, awdurdod cynllunio’r ardal ar gyfer rhan o’r sŵ sydd wedi’i lleoli y tu allan i ardal yr awdurdod lleol sydd â phŵer i ganiatáu’r drwydded, oni bai am awdurdod cynllunio sirol
  • awdurdod cynllunio lleol yr ardal os yw rhan o’r sŵ yn yr ardal honno a’i bod y tu hwnt i ffiniau’r awdurdod sydd â phŵer i ganiatáu’r drwydded, tra bo hynny hefyd yng Nghymru
  • unrhyw berson sy’n honni y byddai’r sŵ yn cael effaith ar iechyd neu ddiogelwch pobl yr ardal
  • unrhyw un sy’n datgan y byddai’r sŵ yn cael effaith ar iechyd neu ddiogelwch unrhyw un sy’n byw gerllaw
  • unrhyw un arall a allai ei sylwadau ddangos rhesymau dros wrthod cais am drwydded yn sgil pŵer neu ddyletswydd yr awdurdod i wneud hynny

Cyn caniatáu neu wrthod cais am drwyddedau, bydd yr awdurdod lleol yn:

  • ystyried unrhyw adroddiadau arolygwyr yn seiliedig ar eu harchwiliad o’r sŵ
  • ymgynghori â’r ymgeisydd ynghylch unrhyw amodau arfaethedig i’w hatodi i’r drwydded
  • trefnu archwiliad

Bydd yr awdurdod lleol yn rhoi o leiaf 28 diwrnod o rybudd am yr archwiliad.

Ni fydd yr awdurdod lleol yn caniatáu’r drwydded os yw’n teimlo:

  • y byddai’r sŵ’n cael effaith andwyol ar iechyd neu ddiogelwch pobl sy’n byw gerllaw
  • y byddai’r sŵ’n cael effaith ddifrifol ar gyfraith a threfn
  • na fyddai’r sŵ’n gweithredu mesurau cadwraeth priodol yn foddhaol

Gellir gwrthod cais hefyd os:

  • nad yw’r awdurdod lleol yn credu y bydd cytiau’r anifeiliaid, y staffio neu’r broses reoli yn addas i ofalu am yr anifeiliaid yn gywir nac yn addas ar gyfer llesiant yr anifeiliaid, neu os nad yw’r awdurdod lleol yn ffyddiog y bydd y sŵ’n cael ei weithredu’n briodol
  • yw ymgeisydd, neu gwmni neu gyfarwyddwyr, rheolwyr, ysgrifenyddion neu swyddogion tebyg cwmni sy’n gwneud cais, neu geidwad yn y sŵ, wedi eu cael yn euog o gam-drin anifeiliaid

Ni roddir ystyriaeth i geisiadau adnewyddu trwydded llai na chwe mis cyn bod y drwydded bresennol yn dod i ben, oni bai bod yr awdurdodau lleol yn caniatáu hynny.

Ar ôl ymgynghori â’r awdurdod lleol, gall yr Ysgrifennydd Gwladol ofyn i’r awdurdod lleol atodi un neu fwy o amodau i drwydded.

Gall yr awdurdod lleol gynghori’r Ysgrifennydd Gwladol y dylai wneud cyfarwyddyd nad oes angen trwydded. Mae cyngor o’r fath yn berthnasol i sŵau sydd â nifer fach o anifeiliaid neu sydd heb lawer o wahanol fathau o anifeiliaid.

Mae er budd y cyhoedd fod awdurdodau yn prosesu ceisiadau cyn eu caniatáu. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod perthnasol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â’r awdurdod. Gallwch wneud hyn ar-lein os gwnaethoch gais drwy’r UK Welcomes Service, neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod.

Ebost: licensing@bridgend.gov.uk
Ff: 01656 643643

Adran Drwyddedu
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Swyddfeydd Dinesig
Angel Street
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Os yw’r cais yn cael ei wrthod, gall ymgeiswyr apelio i Lys yr Ynadon, neu i’r Siryf yn yr Alban, o fewn 28 diwrnod ar ôl cael gwybod bod yr hysbysiad wedi cael ei wrthod.

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol yn gyntaf.

Gall deiliaid trwydded gyflwyno apêl i Lys yr Ynadon, neu i’r Siryf yn yr Alban, yn erbyn y canlynol:

  • unrhyw amod a atodwyd i’r drwydded neu unrhyw amod sydd wedi’i amrywio neu ei ganslo
  • gwrthod cymeradwyo trosglwyddiad trwydded
  • cyfarwyddyd i gau sŵ
  • camau gorfodi sy’n ymwneud ag unrhyw amod sydd heb ei fodloni

Rhaid cyflwyno’r apêl o fewn 28 diwrnod ar ôl i ddeiliad y drwydded gael ei hysbysu’n ysgrifenedig o benderfyniad yr awdurdod.

Wrth gwyno, cysylltwch yn y lle cyntaf â’r masnachwr eich hun, yn ddelfrydol drwy lythyr â phrawf dosbarthu. Os nad yw hynny yn gweithio a’ch bod yn y DU gall Llinell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, helpu. Y tu allan i’r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (UK European Consumer Centre).

Gall unrhyw un sy’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad i gau sŵ gyflwyno cais i Lys yr Ynadon, neu i’r Siryf yn yr Alban. Rhaid cyflwyno’r apeliadau o fewn 28 diwrnod o gael penderfyniad yr awdurdod lleol.

Nid oes unrhyw iawn arall ar gael.

Chwilio A i Y