Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trwydded sefydliad rhyw

Gwneud cais ar-lein


Mae sefydliadau rhyw yn cyfeirio at siopau rhyw, sinemâu rhyw a lleoliadau adloniant rhywiol. Maent yn cynnwys dawnsio gliniau, sioeau tynnu dillad a gweithgareddau dawnsio ar fyrddau ymysg pethau eraill.

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd:

  • fod o leiaf 18 oed
  • bod yn gymwys i ddal trwydded
  • Bod yn breswylydd y DU am o leiaf chwe mis syth cyn gwneud cais neu, os yw’n gorff corfforaethol, fod wedi’i ffurfio yn y DU
  • heb fod wedi’i wrthod am drwydded neu i adnewyddu trwydded ar gyfer y safle yn y flwyddyn ddiwethaf, ond bai bod y penderfyniad wedi’i wyrdroi yn dilyn apêl

Mae ffioedd yn berthnasol ac efallai yr atodir amodau. Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu:

  • gwybodaeth sydd ei hangen ar yr awdurdod lleol
  • enw’r ymgeisydd, ei gyfeiriad a’i oedran (os yw’r ymgeisydd yn unigolyn)
  • cyfeiriad y safle

Mae’n rhaid i ymgeiswyr hysbysu’r cyhoedd am eu cais drwy roi hysbyseb mewn papur newydd lleol.

Mae er budd y cyhoedd bod awdurdodau’n prosesu ceisiadau cyn eu rhoi. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod perthnasol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch ag ef. Gallwch wneud hyn ar-lein os ceisioch drwy Wasanaeth Croeso’r DU, neu defnyddiwch ein manylion cyswllt isod.

Yn y lle cyntaf, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.

Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir rhoi trwydded iddo neu adnewyddu ei drwydded, apelio i’r llys ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o gael gwybod.

Fodd bynnag, nid yw’r hawl i apelio’n berthnasol pan wrthodwyd y drwydded oherwydd:

  • bod nifer y sefydliadau rhyw mewn ardal yn fwy na’r nifer y barna’r awdurdod sy’n briodol

y byddai rhoi trwydded yn amhriodol o ystyried cymeriad yr ardal, natur ei safleoedd eraill, neu’r safleoedd eu hunain

Yn y lle cyntaf, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.

Ebost: licensing@bridgend.gov.uk

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Adran Trwyddedau
Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB

Gall trwyddedai sy’n dymuno apelio yn erbyn amod, wneud hynny i’r llys ynadon lleol.

Wrth gwyno, cysylltwch yn y lle cyntaf â’r masnachwr eich hun, ac yn ddelfrydol drwy lythyr gyda phrawf danfon. Os nad yw hynny’n gweithio ac rydych yn y DU, gall Citizens’ Advice Consumer Helpline eich helpu. Y tu allan i’r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewrop y DU .

Gall trwyddedigion wneud cais i’r awdurdod ar unrhyw adeg i amrywio telerau, amodau neu gyfyngiadau eu trwydded.

Os caiff trwydded ei diddymu neu os gwrthodir cais am amrywiad, gall y trwyddedai apelio i’r llys ynadon lleol. Mae’n rhaid i hyn ddigwydd o fewn 21 diwrnod o’r hysbysiad.

Gall trwyddedai hefyd apelio i lys y goron yn erbyn penderfyniad llys ynadon.

Gall unrhyw un sy’n herio trwydded a ddyfernir, a adnewyddir neu a drosglwyddir, wrthwynebu’n ysgrifenedig i’r awdurdod perthnasol. Mae’n rhaid iddo ddisgrifio’r gwrthwynebiad, o fewn 28 diwrnod o’r cais.

Chwilio A i Y