Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Trwydded Sefydliad Marchogaeth

Cais am, newid neu adnewyddu trwydded ar-lein


Mae safle sydd yn cynnig llogi ceffylau neu ferlod i’w marchogaeth neu ar gyfer gwersi angen trwydded awdurdod lleol, yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed. Yng Nghymru a Lloegr, ni chânt fod wedi eu hanghymhwyso:

  • Rhag cadw sefydliad marchogaeth
  • Rhag cadw siop anifeiliaid anwes dan Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951
  • Rhag bod â gofal dros anifeiliaid dan Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygiedig) 1954
  • Rhag cadw sefydliadau llety i anifeiliaid dan Ddeddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963
  • Dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 rhag delio, cludo, cadw neu fod yn berchen ar anifeiliaid, dylanwadu ar y modd y cânt eu cadw neu ymwneud â’u cludo nhw
  • Rhag bod yn berchen ar, cadw, delio neu gludo anifeiliaid dan Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (yr Alban) 2006

Rhaid i ymgeiswyr dalu unrhyw ffioedd sy’n gysylltiedig â’r cais a’r drwydded a chydymffurfio ag amodau’r drwydded.

Rhaid i’r awdurdod lleol edrych ar adroddiad milfeddyg neu ymarferwr. Bydd hwn yn nodi addasrwydd y safle ar gyfer sefydliad marchogaeth, yn ogystal â’i gyflwr a chyflwr unrhyw geffylau.

Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn ystyried addasrwydd a chymwysterau’r ymgeisydd dros gadw trwydded. Rhaid iddynt hefyd fod wedi eu bodloni:

  • y rhoddir ystyriaeth i gyflwr y ceffylau ac y cânt eu cadw mewn iechyd da ac yn ffit yn gorfforol
  • bod y ceffylau yn addas i’w marchogaeth neu eu defnyddio mewn gwersi
  • y caiff carnau’r anifeiliaid eu trin yn iawn a phedolau sydd yn ffitio’n iawn mewn cyflwr da
  • y bydd gan y ceffylau lety addas
  • y bydd porfeydd addas, cysgod a dŵr i geffylau a gedwir ar wair ac y darperir bwydydd ychwanegol yn ôl yr angen
  • y bydd ceffylau yn derbyn bwyd, diod a deunydd gwâl addas ac y cânt eu hymarfer, eu gwastrodi, eu gorffwys ac yr ymwelir a hwy yn rheolaidd
  • y cymerir rhagofalon i atal lledaeniad afiechydon, a bydd offer cymorth cyntaf milfeddygol a meddyginiaethau yn cael eu cadw
  • y bydd mesurau cywir ar waith i ddiogelu a thynnu ceffylau o unrhyw dannau
  • y bydd lle i storio bwydydd, deunydd gwâl, offer stablau a chyfrwyau

Fel rhan o’r rhagofalon tân, rhaid arddangos enw, cyfeiriad a rhif ffôn deiliad y drwydded y tu allan i’r safle. Hefyd, rhaid arddangos unrhyw gyfarwyddiadau tân.

Yn ychwanegol, mae trwydded sefydliad marchogaeth yn amodol ar yr amodau:

  • na fydd ceffylau y gwelir bod angen sylw milfeddygol arnynt yn gweithio hyd nes y bydd deiliad y drwydded yn derbyn tystysgrif filfeddygol yn cadarnhau ffitrwydd yr anifail i weithio
  • na fydd ceffylau yn cael eu llogi neu eu defnyddio mewn gwersi heb eu harolygu gan berson cyfrifol dros 16 oed, oni bai bod y trwyddedeion yn fodlon nad oes angen goruchwylio’r marchogion
  • na chaiff rhywun o dan 16 ei adael yn gyfrifol am y busnes
  • y bydd gan y trwyddedai yswiriant indemnio
  • y bydd y trwyddedai yn cadw cofrestr o’r ceffylau yn eu meddiant sydd yn dair oed neu iau, y gellir eu harchwilio ar unrhyw adeg sy’n rhesymol

Mae er budd y cyhoedd fod awdurdodau yn prosesu ceisiadau cyn eu caniatáu. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod perthnasol o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â’r awdurdod. Gallwch wneud hyn ar-lein os gwnaethoch gais drwy’r UK Welcomes Service, neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod.

Ebost: Licensing@bridgend.gov.uk

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Yr Is-adran Trwyddedu
Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB

Yn y lle cyntaf, cysylltwch â’ch awdurdod lleol:

Ebost: Licensing@bridgend.gov.uk

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Yr Is-adran Trwyddedu
Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB

Os gwrthodir eich cais, gallwch apelio yn y llys ynadon lleol. Yn yr Alban, gall ymgeiswyr y gwrthodir eu cais iddynt apelio i’r siryf lleol.

Wrth gwyno, cysylltwch yn y lle cyntaf â’r masnachwr eich hun, yn ddelfrydol drwy lythyr â phrawf dosbarthu. Os nad yw hynny yn gweithio a’ch bod yn y DU gall, Llinell Gymorth Cyngor ar Bopeth helpu. Y tu allan i’r DU, cysylltwch â UK European Consumer Centre.

Nid oes unrhyw ffurf arall ar iawndal i’w gael.

Chwilio A i Y